Peredur Owen Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Peredur Owen Griffiths
AS
Aelod o'r Senedd
dros Dwyrain De Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
8 Mai 2021
Manylion personol
GanedHydref 1978 (45 oed)
Plaid gwleidyddolPlaid Cymru

Gwleidydd o Gymro yw Peredur Owen Griffiths (ganwyd Hydref 1978) ac aelod o Blaid Cymru. Mae wedi gwasanaethu fel Aelod o’r Senedd (AS) dros ranbarth Dwyrain De Cymru ers etholiad Senedd 2021 . [1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn fab i weinidog, bu Peredur yn byw mewn sawl rhan gwahanol o Gymru cyn iddo gychwyn yn yr ysgol uwchradd. Aeth i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Sheffield. Fel myfyriwr cafodd swydd mewn banc, ac ar ôl cwblhau ei radd, cafodd ei ddyrchafu yn Reolwr Banc i Santander. Symudodd yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant.

Tra gyda Santander, gweithiodd mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Trefynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Cafodd swydd wedyn gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality. Gweithiodd ledled Cymru, yn y sector morgeisi, mewn rôl fel brocer a benthyciwr gan ddatblygu profiad yn sector tai Cymru.

Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol, yn 2015 ymunodd â Chymorth Cristnogol fel Cydlynydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Ewyllysiau Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn ymunodd hefyd â Bwrdd Cyfarwyddwyr ‘Displaced People in Action’, elusen sy'n gweithio gyda ffoaduriaid. Wedyn bu'n gweithio i Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welsh election results 2021: Mark Drakeford set to stay as first minister". BBC News. 8 May 2021. Cyrchwyd 8 May 2021.
  2.  Ymgeisydd - Peredur Owen Griffiths. Plaid Cymru - Blaenau Gwent. Adalwyd ar 12 Mai 2021.