Mike Hedges

Oddi ar Wicipedia
Mike Hedges
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddwyrain Abertawe
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganVal Lloyd
Mwyafrif7,452 (36.2%)
Manylion personol
Ganwyd (1956-07-08) 8 Gorffennaf 1956 (67 oed)
Abertawe
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
PriodAnne Hedges
CartrefTreforys, Abertawe
Alma materPrifysgol Abertawe
Prifysgol Caerdydd
GwaithDarlithydd
ProffesiwnGwleidydd

Gwleidydd Llafur Cymru yw Michael John Hedges AC (ganed 8 Gorffennaf 1956) [1] sydd wedi cynrychioli etholaeth Dwyrain Abertawe ers etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 gyda mwyafrif o 8,281[2] a gyda 58.36% o gyfanswm y bleidlais.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hedges yn ardal Plasmarl, Abertawe ac mae'n byw erbyn hyn yn Nhreforys. Mae'n briod ag Anne ac mae ganddo ferch, Catrin, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bryntawe. Mynychodd ysgolion Plasmarl, Parklands a Penlan, ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd. Yn weithgar mewn chwaraeon lleol, mae Mike wedi bod yn ddyfarnwr a hyfforddwr pêl-droed, a roedd yn ysgrifennydd clwb Treforys am sawl mlynedd. Ar hyn o bryd, mae Mike yn Llywydd Clwb Criced a Phêl-droed Ynystawe ac mae'n aelod o Clwb Rygbi Treforys a Chlwb Rygbi Glais.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol bu'n gweithio fel gwyddonydd ymchwil i Ddur Prydain ym Mhort Talbot, a treuliodd Mike 27 mlynedd fel uwch-ddarlithydd ym Mhontypridd, yn arbenigo mewn cyfrifiadura a thechnoleg gwybodaeth.

Hanes Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Mike Hedges i gynrychioli Treforys ar cyngor Dinas a Sir Abertawe yn 1995. Cafodd ei ail-ethol yn 1999, 2004 a 2008. Cyn hynny, bu'n aelod o Gyngor Dinas Abertawe o 1989. Daliodd nifer o swyddi uwch ar y Cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyllid a Gwasanaethau Technegol. Roedd hefyd yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Craffu'r Cyngor ac yn lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.

Gyda diddordeb brwd mewn addysg, bu Hedges yn lywodraethwr gyda Prifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe, ysgolion Cyfun Mynyddbach a Threforys, ysgolion cyfun, Coleg Abertawe a mae'n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Glyncollen ac Ysgol Gynradd Ynystawel.

Roedd Hedges hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o Ymddiriedolaeth GIG Abertawe rhwng 1999 a 2005. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, iechyd, llywodraeth leol, y ddarpariaeth chwaraeon ac amddifadedd cymdeithasol.

Aelodaeth pwyllgor ac aelodau grŵpiau trawsbleidiol[golygu | golygu cod]

Ar hyn o bryd mae Mike yn eistedd fel aelod o Bwyllgor Cyllid y Cynulliad,[3] y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus[4] ac y pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.[5] Mae Mike hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn A Heneiddio yn ogystal ag yn aelod ar y Grwpiau Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, Cwrw a Thafarndai, cwmnïau cydweithredol a Chydfuddiannol, Canser, Materion Byddar a'r Undeb PCS.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.senedd.assemblywales.org/mgUserInfo.aspx?
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd 2016-05-09.
  3. "http://senedd.assemblywales.org/mgCommitteeDetails.aspx?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-22. Cyrchwyd 2016-05-09. External link in |title= (help)
  4. "http://senedd.assemblywales.org/mgCommitteeDetails.aspx?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-30. Cyrchwyd 2016-05-09. External link in |title= (help)
  5. "http://senedd.assemblywales.org/mgCommitteeDetails.aspx?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-05. Cyrchwyd 2016-05-09. External link in |title= (help)