Manon Antoniazzi

Oddi ar Wicipedia
Manon Antoniazzi
Ganwyd15 Ebrill 1965 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwas sifil Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Gwas sifil yw Dr Manon Antoniazzi (ganwyd 15 Ebrill 1965) sydd yn Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru ers Ebrill 2017.

Ganwyd Manon Jenkins yn ferch i Emyr Jenkins, cyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n chwaer hŷn i Ffion Hague. Aeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt ac yna Coleg yr Iesu, Rhydychen. Wedi graddio aeth ymlaen i wneud PhD ar Gerddi Proffwydol Canolesol Cymreig.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd ei swydd gyntaf gyda Dŵr Cymru yn ysgrifennu polisîau dwyieithog.[1] Rhwng Gorffennaf 1991 a Rhagfyr 1993 bu'n gweithio fel Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus yn S4C. Yn 1994 daeth yn Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Siarl a chyfrifoldeb dros Gymru. Yn 1999 symudodd yn ôl i Gymru gan weithio yn adran gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol, corff oedd newydd ei sefydlu. Ymunodd â BBC Cymru yn Medi 2000 fel Ysgrifennydd a Phennaeth Materion Cyhoeddus ac yna Pennaeth Materion Cyhoeddus, Gwledydd a Rhanbarthau yn 2003.

Dychwelodd i swydd Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Siarl rhwng Rhagfyr 2004 a Gorffennaf 2012. Aeth ymlaen i swydd Prif Weithredwr Croeso Cymru[2]. O Ebrill 2017 dilynodd Claire Clancy fel Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd John Antoniazzi yn 2014 ac mae'r ddau yn byw yng Nghaerdydd. Mae ganddi ferch, Indeg.[4]

Swyddi[golygu | golygu cod]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Claire Clancy
Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2017–presennol
Olynydd:
deiliad

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Anglo-Saxon, Norse and Celtic Alumni Newsletter, ASNC (5 Awst 2012). Adalwyd ar 25 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) Proffil LinkedIn. LinkedIn. Adalwyd ar 25 Ionawr 2017.
  3. Manon Antoniazzi fydd Prif Weithredwr a Chlerc nesaf y Cynulliad , BBC Cymru Fyw, 25 Ionawr 2017.
  4. Business figures fly the flag for Wales at their wedding in Italy (en) , Wales Online, 29 Ebrill 2014. Cyrchwyd ar 25 Ionawr 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]