Ysgol Llanhari
| Ysgol Llanhari | |
|---|---|
| Arwyddair | Gorau gwaith gwasanaeth |
| Sefydlwyd | 1974 |
| Math | y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mrs R Phillips |
| Dirprwy Bennaeth | Ms M Thomas |
| Cadeirydd | Mrs Pauline Harrison |
| Lleoliad | Llanhari, Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF72 9XE |
| AALl | Rhondda Cynon Taf |
| Disgyblion | 631 |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 3–18 |
| Llysoedd | Trisant, Hari ac Aran |
| Gwefan | http://www.llanhari.com/ |
Ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Llanhari, sydd yn gwasanaethu disgyblion o rhwng 3 ac 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn 1974, yn dilyn agoriad Ysgol Gyfun Rhydfelen rhai blynyddoedd ynghynt. Roedd yr ysgol mor boblogaidd yr oedd yn fuan wedi ei gor-tanysgrifo ac felly agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd yn 1978 er mwyn cymryd disgyblion o Dde Morgannwg.
Gwybodaeth bellach
[golygu | golygu cod]Mae gan yr ysgol adrannau cynradd ac uwchradd. Daw'r disgyblion uwchradd o'r adran gynradd ac o ysgolion cynradd Ysgol Gynradd Gymunedol Llantrisant, Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Dolau ym mlwyddyn 7 y system addysgol.
Mae 3 cae rygbi/pêl-droed, cae hoci, iard pêl-droed/pêl fasged a iard wedi ei tharmacio ar dir yr ysgol. Mae gan yr ysgol un o'r campysau mwyaf yn ne Cymru.
Gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Pennaeth yr Ysgol: Mrs Rhian Phillips
- Dirprwy: Ms Meinir Thomas
- Penaethiaid Cynorthwyol: Mr G Howell, Ms C Webb, Mr M Evans