Neidio i'r cynnwys

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Arwyddair Coron Gwlad Ei Mamiaith
Sefydlwyd 1978
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr. Matthew Evans
Lleoliad Heol y Bont, Ystum Taf, Caerdydd, Cymru, CF14 2JL
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion 1,132 (2017)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Glas golau a thywyll
Gwefan www.glantaf.cymru

Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Ystum Taf, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas. Bu Mr Huw Thomas, Mrs Rhiannon Mary Lloyd a Mr Alun Davies yn brifathrawon yn yr ysgol. Y Pennaeth presennol yw Mr. Matthew Evans a ymunodd â’r ysgol ym mis Medi 2020 o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.[1]

Erbyn y 1998 roedd cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd fel yr agorwyd ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Sefydlwyd trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, ym mis Medi 2012, a gartrefwyd ar ran o safle Glantaf dros dro, cyn symud i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhenylan ym mis Medi 2013.[2]

Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith.

Dalgylch

[golygu | golygu cod]
Arwyddbost Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ebrill 2024

Dyma ysgolion cynradd dalgylch yr ysgol:

Cyn-ddisgyblion o nod

[golygu | golygu cod]
Gweler y categori Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  School Details: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Cyngor Caerdydd.
  2.  Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]