Jamie Roberts
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |||
Enw llawn | Dr. Jamie Huw Roberts | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 8 Tachwedd 1986 | ||
Man geni | Casnewydd, Cymru | ||
Taldra | 1.93 m | ||
Pwysau | 110 kg | ||
Prifysgol | Prifysgol Caerdydd | ||
Gwaith | Chwaraewr rygbi'r undeb, Meddyg |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb dros dîm Harlequins a Chymru yw Jamie Roberts (ganed 8 Tachwedd 1986). Mae'n chwarae fel canolwr fel arfer, ond gall hefyd chwarae fel cefnwr ac asgellwr.
Ganed ef yn Nghasnewydd, ac addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn 2013, graddiodd Jamie Roberts mewn meddygaeth o Brifysgol Caerdydd[1].
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru fel asgellwr yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm ar 9 Chwefror 2008. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i chwarae fel canolwr, ac yn y safle yma dyfarnwyd ef yn chwaraewr gorau'r gêm rhwng Cymru a'r Alban ar 8 Chwefror 2009.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cyfweliad arbennig gyda Jamie Roberts. BBC (29 Hydref 2013). Adalwyd ar 29 Awst 2015.
|