Y Dreigiau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dreigiau Casnewydd Gwent)
Y Dreigiau
UndebUndeb Rygbi Cymru
Sefydlwyd2003
LleoliadCasnewydd
Maes/yddRodney Parade

Mae'r Dreigiau (Dragons RFC) yn rhanbarth rygbi'r undeb yng Nghymru, ac yn chwarae yn y Gynghrair Celtaidd, y Cwpan Heineken (a'r Cwpan Eingl-Gymreig gynt).

Hanes y Rhanbarth[golygu | golygu cod]

Rhanbarthau Rygbi Cymru

Rygbi Caerdydd
Caerdydd
Y Scarlets
Llanelli
Y Gweilch
Abertawe
Castell-
Nedd
Y Dreigiau
Casnewydd

Mae'r Dreigiau yn un o'r pum rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bum rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.

Ffurfiwyd Dreigiau Casnewydd Gwent gan gyfuno tîmoedd Casnewydd a Glyn Ebwy gyda'r ddau yn perthyn hanner yr rhanbarth. Yn wreiddiol fe enwyd y tîm yn Dreigiau Gwent gan yr Undeb Rygbi Cymru oherwydd nad oedd y ddau yn gallu cytuno ar enw. Oherwydd problemau ariannol, gwerthodd Glyn Ebwy eu hanner i Casnewydd ac cyn i'r tymor cyntaf dechrau, roedd Casnewydd wedi newid enw'r rhanbarth i Dreigiau Casnewydd Gwent. Yn swyddogol mae'r rhanbarth yn cynrychioli De-ddwyrain Cymru.

Roedd tymor gyntaf y Dreigiau yn eithaf llwyddiannus. Roedd tîm da gyda'r rhanbarth ond nid oedd llawer o sêr rhyngwladol ganddynt. Oherwydd hyn nid oedd y Dreigiau wedi colli llawer o chwaraewyr dewis-cyntaf yn ystod Cwpan y Byd 2003. Roedd yr rhanbarth yn un o'r tair a oedd yn gallu ennill y Cynghrair Celtaidd yn ystod y tymor 2003-04 ar benwythnos olaf y gystadlaeth. Collodd y Dreigiau eu gêm olaf ac gorfennon nhw yn y 3ydd safle. Ar ddiwedd y tymor, fe roddwyd swydd Prif hyfforddwr Cymru i hyfforddwr y Dreigiau, Mike Ruddock, yn amgylchiadau dadleuol.

Parhoddodd y llwyddiant i raddau yn ystod yr ail dymor, gyda rhai chwaraewyr yn ymyno oddi wrth y Rhyfelwyr Celtaidd (a oedd wedi eu diddymu gan yr URC). Gorffennodd y rhanbarth yn y 4ydd safle yn y Cynghrair Celtaidd o flaen dau rhanbarth arall o Gymru, Scarlets Llanelli a Gleision Caerdydd. Er hynny, methodd y rhanbarth cyraedd ail rownd y Cwpan Heineken y tymor yma.

Gyda anafiadau i ddau o brif chwaraewyr y Dreigiau, Kevin Morgan a Gareth Cooper, roedd 2005-06 yn dymor gwael i'r rhanbarth. Ar ôl gorffen yn y 9fed safle yn y Cynghrair Celtaidd, y gwaethaf o rhanbarthau Cymru, methodd y Dreigiau gael lle yn y Cwpan Heieneken oherwydd colli gêm ail-gyfle yn erbyn Overmach Parma. Hefyd methon nhw gyrraedd ail rownd y Cwpan Heineken neu rownd gyn-derfynol y Cwpan Eingl-Gymreig y tymor hon.

Cartref[golygu | golygu cod]

Mae'r Dreigiau yn chwarae eu gemau cartref ar faes Rodney Parade. Dyma'r unig maes yn y rhanbarth digon da i gynnal gemau rhanbarthol ac mae'n dal 11,000 o gefnogwyr. Er hynny, nid yw Rodney Parade o'r un safon a maesydd y rhanbarthau eraill, ac fe fydd yn broblem yn y dyfodol i'r Dreigiau wrth gymharu â Stadiwm Liberty y Gweilch ac stadiwm newydd Scarlets Llanelli.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]