Stadiwm Liberty
![]() | |
Math |
stadiwm pêl-droed ![]() |
---|---|
| |
Agoriad swyddogol |
10 Gorffennaf 2005 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Abertawe ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.6422°N 3.9351°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Cyngor Dinas a Sir Abertawe ![]() |
Arena chwaraeon a chyngherddau, yn ogystal â bod yn ganolfan gynadleddla yn ardal Glandŵr o ddinas Abertawe yw Stadiwm Liberty. Mae'r stadiwm yn eiddo i Gyngor Dinas Abertawe ac mae'n medru seddu dros 20,000 o bobl, gan wneud y ganolfan y mwyaf o'i math yn Abertawe. Stadiwm Liberty yw'r drydedd stadiwm fwyaf yng Nghymru ar ôl Stadiwm y Mileniwm sy'n dal 74,500 a Stadiwm Dinas Caerdydd sy'n dal 26,828.
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n gartref i Glwb pêl-droed Dinas Abertawe a thîm rygbi rhanbarthol Y Gweilch. Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru hefyd yn chwarae rhai gemau cartef yno.
Cyngherddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar y 1af o Fehefin 2007, perfformiodd The Who gyngerdd yno a cawsant eu cefnogi gan Killing For Company a The Charlatans. Perfformiodd Elton John ei unig gyngerdd yng Nghymru yn 2008 yn Stadiwm Liberty ar y 29ain o Fehefin, 2008 gerbron torf o tua 25,000.[1].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan Swyddogol Stadiwm Liberty (Saesneg)