Elton John
Elton John | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Elton John ![]() |
Ganwyd | Reginald Kenneth Dwight ![]() 25 Mawrth 1947 ![]() Pinner ![]() |
Label recordio | Universal Records, Island Records, Philips Records, DJM Records, Uni, Geffen Records, Paramount Records, Rocket Records, Mercury Records, MCA Records, Def Jam Recordings, Congress, The Rocket Record Company, IL, Chrysalis Records, A&M Records, Regal Zonophone, Stateside Records, Cube Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr, actor ffilm, allweddellwr, pianydd, artist recordio, HIV/AIDS activist ![]() |
Adnabyddus am | Billy Elliot the Musical, Goodbye Yellow Brick Road, Your Song, Tiny Dancer ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc poblogaidd, roc glam, roc meddal, rhythm a blŵs ![]() |
Math o lais | tenor ![]() |
Tad | Stanley Dwight ![]() |
Mam | Sheila Eileen Farebrother ![]() |
Priod | David Furnish, Renate Blauel ![]() |
Gwobr/au | Officier des Arts et des Lettres, CBE, Gwobr Grammy Legend, MusiCares Person of the Year, Rock and Roll Hall of Fame, Silver Clef Award, Anrhydedd y Kennedy Center, 'Disney Legends', Marchog Faglor, Johnny Mercer Award, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Crystal Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Grammy, Gwobr Tony ![]() |
Gwefan | https://www.eltonjohn.com ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Mae Syr Elton Hercules John CH CBE (ganwyd Reginald Kenneth Dwight; 25 Mawrth 1947) [1] yn ganwr, cyfansoddwr caneuon, pianydd a chyfansoddwr cerddoriaeth Saesneg.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Dwight yn yn Pinner, Middlesex ( Bwrdeistref Harrow yn Llundain heddiw), yn blentyn hynaf Stanley Dwight (1925–1991) ac unig blentyn Sheila Eileen (née Harris; 1925–2017),[2][3] ac fe'i magwyd mewn tŷ cyngor yn Pinner gan ei nain a thaid mamol. Addysgwyd ef yn Ysgol Iau Pinner Wood, Ysgol Reddiford ac Ysgol Ramadeg Sirol Pinner. Ymadawodd a'r ysgol yn 17 mlwydd oed ychydig cyn ei arholiadau Safon Uwch i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.[4] Dechreuodd John chwarae piano ei nain yn fachgen ifanc,[5] ac yn 7mlwydd oed dechreuodd derbyn wersi piano ffurfiol. Dangosodd ddawn gerddorol yn yr ysgol, gan gynnwys y gallu i gyfansoddi alawon ac enillodd rywfaint o enwogrwydd trwy chwarae fel Jerry Lee Lewis mewn digwyddiadau ysgol. Yn 11 oed, enillodd ysgoloriaeth iau i'r Academi Gerdd Frenhinol .
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym 1962 ffurfiodd Bluesology, band R&B y bu'n chwarae gyda nhw hyd 1967. Gan gydweithio gyda’r telynegwr Bernie Taupin er 1967 [6] ar fwy na 30 albwm, mae John wedi gwerthu dros 300 miliwn o recordiau, gan ei wneud yn un o'r artistiaid cerdd sydd wedi gwerthu orau erioed.[7][8] Mae mwy na hanner cant o'i recordiau wedi cyraedd Siart Senglau'r DU a'r US Billboard Hot 100, gan gynnwys saith rhif un yn y DU a naw yn yr UD, yn ogystal â saith albwm rhif un yn olynol yn yr UD.[9][10] Gwerthodd ei sengl deyrnged "Candle in the Wind 1997 ", a ail-ysgrifennwyd mewn teyrnged i Diana, Tywysoges Cymru, dros 33 miliwn o gopïau ledled y byd. Dyma'r sengl sydd wedi gwerthu orau yn hanes siartiau senglau'r DU a'r UD.[11]. Mae John hefyd wedi cael llwyddiant mewn ffilmiau cerddorol a theatr, gan gyfansoddi ar gyfer The Lion King a'i addasiad llwyfan, Aida a Billy Elliot the Musical .
Roedd John yn berchen ar Watford F.C. rhwng 1976 a 1987 a rhwng 1997 a 2002. Mae'n llywydd er anrhydedd am oes y clwb.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae John wedi derbyn pum Gwobr Grammy, pum Gwobr Brit ; gan gynnwys un ar gyfer Cyfraniad Eithriadol i Gerddoriaeth; dwy Wobr Academi, dwy Golden Globe, Gwobr Tony, Gwobr Disney Legends, ac Anrhydedd Canolfan Kennedy. Cafodd ei urddo i Oriel Anfarwolion y Cyfansoddwyr Caneuon ym 1992 a Neuadd Enwogion Roc a Rôl ym 1994, ac mae'n gymrawd Academi Awduron, Cyfansoddwyr ac Awduron Prydain . Cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhines Elizabeth II am "wasanaethau i gerddoriaeth a gwasanaethau elusennol" ym 1998.[12]
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhywioldeb[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar ddiwedd y 1960au, dyweddïwyd John i fod yn briod â'i gariad cyntaf, yr ysgrifennydd Linda Woodrow, a grybwyllir yn y gân " Someone Saved My Life Tonight ".[13][14] Rhoddodd Woodrow gymorth ariannol i John a Taupin ar y pryd. Daeth John â'r berthynas i ben bythefnos cyn eu priodas arfaethedig.[15]
Ym 1970, yn unol ar ôl ei sioeau cyntaf yn yr UD yn Los Angeles, ei berthynas hoyw gyntaf â John Reid, rheolwr label Tamla Motown ar gyfer y DU, a ddaeth yn rheolwr John yn ddiweddarach. Daeth y berthynas i ben bum mlynedd yn ddiweddarach, er i Reid aros yn rheolwr arno tan 1998.[16]
Priodas gyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]
Priododd John y peiriannydd recordio Almaenig Renate Blauel ar 14 Chwefror 1984, mewn seremoni briodas yn Darling Point, New South Wales, Awstralia.[17] Daeth eu priodas i ben trwy ysgariad ym 1988.[18]
Ail briodas[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym 1993, cychwynnodd John berthynas â David Furnish, gwneuthurwr ffilmiau o Toronto. Ar 21 Rhagfyr 2005 (y diwrnod y daeth y Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym), roedd John a Furnish ymhlith y cyplau cyntaf i ffurfio partneriaeth sifil yn y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Windsor.[19] Ar ôl i briodas hoyw ddod yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2014, priododd John a Furnish yn Windsor, Berkshire, ar 21 Rhagfyr 2014, nawfed pen-blwydd eu partneriaeth sifil.[20] Mae ganddynt ddau fab.[21]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Elton John | Biography & History". AllMusic. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Family detective: Elton John". The Telegraph. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Sir Elton John 'in shock' after his mother dies aged 92". BBC News. 6 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 12 November 2018.
- ↑ Elizabeth Rosenthal, His Song: The Musical Journey of Elton John, Billboard Books, 2001.
- ↑ "Tear-Jerker British Ad Re-Creates Elton John's Christmas Past". NPR.org. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ Greene, Andy; Greene, Andy (2020-11-02). "Bernie Taupin on His 53-Year Saga With Elton John and Hopes for the Future". Rolling Stone. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ America, Good Morning. "Elton John on why he's retiring from touring: 'I'd rather be with my children'". Good Morning America. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ Ryan, Jim. "Elton John Says Goodbye Yellow Brick Road During Chicago Stop Of Farewell Tour". Forbes. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Elton John | full Official Chart History | Official Charts Company". www.officialcharts.com. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Elton John on Being the Top Male Solo Artist of All Time and Why Billboard Is Still His 'Bible'". Billboard. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "RIAA - Recording Industry Association of America - October 06, 2014". web.archive.org. 2014-10-06. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "About: All About Elton: Bio". Elton John. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 July 2010. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2020.
- ↑ Jahr, Cliff (7 October 1976). "Elton John: It's Lonely at the Top". Rolling Stone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 July 2007. Cyrchwyd 25 February 2009.
- ↑ Paul Myers (6 September 2007). It Ain't Easy: Long John Baldry and the Birth of the British Blues, page 133. Greystone Books, 2007. ISBN 978-1-55365-200-7. Cyrchwyd 2 February 2010.
- ↑ "Elton John helps ex-fiancée, 50 years after jilting her". Raidió Teilifís Éireann. 2020-06-06.
- ↑ Storey, Kate (30 May 2019). "Elton John and John Reid's Relationship Imploded After What We See in 'Rocketman'". Esquire.
- ↑ Savage, Mark (25 August 2020). "Elton John's ex-wife 'attempted suicide' during their honeymoon". BBC. Cyrchwyd 26 August 2020.
- ↑ "Rocketman: Elton John's Forgotten 1984 Wedding to Renate Blauel". Daily Australian. Cyrchwyd 1 June 2020.
- ↑ John, Elton (8 October 2012). "The historic fight for equality must go on. Let's get on and legalise same-sex marriage". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26. Cyrchwyd 2020-12-06.
- ↑ "Sir Elton John and David Furnish marry". BBC News. 21 December 2014. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2020.
- ↑ "There are no words to describe how much we love these boys': Elton John on his adorable sons". Hello magazine. 17 Rhagfyr 2017.