The Who
Enghraifft o'r canlynol | band roc |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Warner Bros. Records, Atco Records, Brunswick Records, Decca Records, Polydor Records |
Dod i'r brig | 1964 |
Dechrau/Sefydlu | Chwefror 1964 |
Genre | roc celf, cerddoriaeth roc caled, rhythm a blŵs, cerddoriaeth roc, roc blaengar |
Yn cynnwys | Roger Daltrey, Pete Townshend, John Entwistle, Keith Moon, Kenney Jones |
Rhagflaenydd | The High Numbers |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://thewho.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band roc o Lundain ac arloeswyr roc caled yw The Who. Ffurfiwyd y band yn 1964 o dan yr enw "The High Numbers" i ganu caneuon Rhythm a blŵs Americanaidd. Doedd eu cerddoriaeth ddim yn wreiddiol a doedd eu record gyntaf "Zoot suit / I'm the face" ddim yn llwyddiannus, felly roeddyn nhw'n gorfod gwneud newidiadau pwysig. Fe ysgrifennodd eu gitârydd Pete Townshend ganeuon newydd ac ymaelododd y drymiwr anhygoel Keith Moon (oedd ddim ond yn 17 oed ar y pryd). Gwnaeth y cyfuniad hwn newid sŵn y band yn hollol. Roeddyn nhw'n chwarae arddull o gerddoriaeth a elwir roc caled heddiw. Roedd llawer o glybiau "mod" yn Llundain ar y pryd felly gwnaeth y band rhoi'r gorau i wisgo siacedi lledr a mabwysiadu dillad ffasiynol cyfoesol a mynd chwarae yn y clybiau hyn o dan enw newydd "The Who".
Fe recordiodd y Who eu record cyntaf "I Can't Explain" ym mis Tachwedd 1964 a gafodd ei rhyddhau ym mis Ionawr 1965 gyda Roger Daltrey yn canu a John Entwistle ar y gitâr fas. Dilynnwyd hwn gyda "Anyway, Anyhow, Anywhere" ym mis Mawrth a "My Generation" ym mis Hydref. Ar ôl 7 record yn y "top 10" ym Mhrydain gwnaethyn nhw ddim cael unrhyw lwyddiant yn America nes iddyn nhw rhyddhau "I can see for miles" ym mis Medi 1967.
Ym mis Medi 1978, deufis ar ôl rhyddhau "Who are you?" bu farw'r drymiwr Keith Moon. Penderfynodd y band gymryd dau aelod newydd, sef Kenney Jones (o'r Faces) ar y drymau a John "Rabbit" Bundrick i chwarae allweddau.
Diwrnod cyn teithio America yn 2002 bu farw John Entwistle yn Las Vegas ac roedd rhaid i'r band gario ymlaen gyda Pino Palladino yn chwarae'r gitâr fas. Wedi cyrraedd gartref yn Lloegr roedd y ddau aelod gwreiddiol, Roger Daltrey a Pete Townshend yn amheus am ddyfodol y band ond yn 2003 fe benderfynodd nhw wneud rhagor o recordiau gyda Rabbit ar yr allweddell a derbyn tri aelod newydd, sef Simon Townshend (brawd Pete Townshend) yn chwarae gitâr, Greg Lake (o Emerson, Lake & Palmer) ar y gitâr fas a Zak Starkey (mab Ringo Starr) ar y drymau.
Yn 2006, perfformiodd y band yn nghyngerdd Live 8 yn Llundain.
Albymau
[golygu | golygu cod]- My Generation (1965)
- A Quick One (1966)
- The Who Sell Out (1967)
- Tommy (1969)
- Who’s Next (1971)
- Quadrophenia (1973)
- The Who by Numbers (1975)
- Who Are You (1978)
- Face Dances (1981)
- It’s Hard (1982)
- Endless Wire (2006)
- Who (2019)