Pino Palladino
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Pino Palladino | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Giuseppe Henry Palladino ![]() 17 Hydref 1957 ![]() Caerdydd ![]() |
Label recordio | Verve Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Galwedigaeth | basydd, cerddor jazz, cerddor sesiwn, gitarydd ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc, cyfoes R&B ![]() |
Gitarydd bas, cerddor, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau o Gymro yw Pino Palladino (ganwyd Giuseppe Henry Palladino, 17 Hydref 1957). Mae'n faswr sesiwn toreithiog sydd wedi chwarae bas ar gyfer llawer o gerddorion adnabyddus. Ar ôl marwolaeth John Entwistle yn 2002 ymddangosai yn gyson gyda The Who.
Yn fab i fam o Gymraes (Ann Hazard) a thad o'r Eidal (Umberto Palladino, o ddinas Campobasso, Molise), fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ar 17 Hydref 1957. Mynychodd ysgol Gatholig. Dechreuodd chwarae'r gitâr yn 14 oed a gitâr fas yn 17 oed. Priododd Marilyn Roberts yn 1992; roedd ganddynt dri o blant.