Stadiwm y Mileniwm

Oddi ar Wicipedia
Stadiwm y Mileniwm
Mathstadiwm rygbi'r undeb, stadiwm pêl-droed, safle rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl3edd mileniwm, Cymdeithas Adeiladu'r Principality Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol26 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1997 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd40,200 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4781°N 3.1825°W Edit this on Wikidata
Hyd222 metr Edit this on Wikidata
Rheolir ganUndeb Rygbi Cymru Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethUndeb Rygbi Cymru Edit this on Wikidata
Cost181,000,000 punt sterling Edit this on Wikidata

Lleolir Stadiwm y Mileniwm neu Stadiwm Principality (Saesneg: Principality Stadium) yng Nghaerdydd, ar lan Afon Taf. Mae'r enw yn adlewyrchu cytundeb nawdd gyda Cymdeithas Adeiladu'r Principality rhwng 2016 a 2026. Dyma stadiwm cenedlaethol Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru yw ei berchennog. Dyma'r ail stadiwm fwyaf yn byd gyda tho y gellir ei dynnu yn ôl yn gyfan gwbwl; mae ganddo le ar gyfer 75,154 o bobl.[1] Fe'i adeiladwyd yn 1999, ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, a gynhaliwyd yng Nghymru y flwyddyn honno. Fe gostiodd £126 miliwn i Undeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau. Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn De Affrica.

Pan agorodd y stadiwm yn swyddogol ym mis Mehefin 1999, hwn oedd dim ond yr ail stadiwm yn Ewrop â tho gwbwl codadwy, ar ôl Arena Amsterdam. Fe'i hadeiladwyd ar safle yr hen Stadiwm Cenedlaethol ym Mharc yr Arfau; hwn oedd y pedwerydd tro i'r safle hwnnw gael ei ailddatblygu.[2]

Cynhaliwyd gemau terfynol Cwpan yr FA yma rhwng 2001 a 2006,[1] tra'r oedd Stadiwm Wembley yn Llundain yn cael ei ail-adeiladu.[3] Cynhaliwyd hefyd gemau pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012[4] a gemau yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015.[1] Dyma fydd safle gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017.[5] Mae nifer o gerddorion wedi perfformio mewn cyngherddau yma, gan gynnwys Madonna, Take That, The Rolling Stones a Paul McCartney.[6] Yn 2004, cynhaliwyd Cyngerdd Cymorth Tsunami yn y stadiwm.

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Millennium Stadium. Rugby World Cup. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
  2. (Saesneg) About the Venue. Stadiwm y Mileniwm. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
  3. (Saesneg) The History of Wembley Stadium. Stadiwm Wembley (25 Ebrill 2013). Adalwyd ar 7 Medi 2015.
  4. (Saesneg) Dulin, David (25 Gorffennaf 2012). London 2012: Eyes on Millennium Stadium as Olympics open. BBC News. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
  5. (Saesneg) Peach, Simon (30 Mehefin 2015). Millennium Stadium in Cardiff confirmed as host for the 2017 Champions League final. Daily Mail. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
  6. (Saesneg) Millennium Stadium. WalesOnline. Adalwyd ar 7 Medi 2015.