Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1909

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1909
Lloegr v Cymru 1909.jpg
Lloegr a Chymru
Dyddiad16 Ionawr20 Mawrth 1909
Gwledydd Lloegr
 Iwerddon
 yr Alban
 Cymru
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Cymru (6ed tro)
Y Gamp Lawn Cymru (2il deitl)
Y Goron Driphlyg Cymru (6ed teitl)
Cwpan Calcutta yr Alban
Gemau a chwaraewyd6
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Cymru Jack Bancroft (10)
Lloegr Alexander Palmer (10)
Sgoriwr
y nifer fwyaf
o geisiadau
Cymru Phil Hopkins (2)
Lloegr Edgar Mobbs (2)
Lloegr Alexander Palmer (2)
Cymru Billy Trew (2)
1908 (Blaenorol) (Nesaf) 1910

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1909 oedd y 27ain ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 16 Ionawr a 20 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.

Er nad oeddent yn rhan swyddogol o'r twrnamaint tan 1910, trefnwyd gemau gyda thîm cenedlaethol Ffrainc a chwaraewyd yn ystod y Bencampwriaeth. Yn ystod Pencampwriaeth 1909, wynebodd tair o'r pedair gwlad Ffrainc; Cymru, Lloegr a'r Iwerddon. Fel gwnaethant ym Mhencampwriaeth 1908, curodd Cymru bob un o dri gwrthwynebydd gartref a Ffrainc, gan gipio teitl y Bencampwriaeth, Y Goron Driphlyg a'r Gamp Lawn.

Tabl[golygu | golygu cod y dudalen]

Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Pwyntiau
bwrdd
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Dros Yn erbyn Gwahan.
1  Cymru 3 3 0 0 31 8 +23 6
2  yr Alban 3 2 0 1 30 16 +14 4
3  Lloegr 3 1 0 2 19 31 −12 2
4  Iwerddon 3 0 0 3 13 38 −25 0

System sgorio[golygu | golygu cod y dudalen]

Penderfynwyd ar y gemau ar gyfer y tymor hwn ar bwyntiau a sgoriwyd. Roedd cais werth tri phwynt, tra bod trosi gôl wedi cais yn rhoi dau bwynt ychwanegol. Roedd gôl adlam gwerth pedwar pwynt, tra bod gôl o farc a gôl cosb, ill ddau, yn werth tri phwynt.

Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

6 Chwefror 1909
yr Alban  3 - 5  Cymru
13 Chwefror 1909
Iwerddon  5 - 11  Lloegr
27 Chwefror 1909
yr Alban  9 - 3  Iwerddon
13 Chwefror 1909
Cymru  18 - 5  Iwerddon
20 Chwefror 1909
Lloegr  8 - 18  yr Alban

Gemau yn erbyn Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]

30 Ionawr 1909
Lloegr  22–0  Ffrainc
23 Chwefror 1909
Ffrainc  5–47  Cymru
20 Chwefror 1909
Iwerddon  19–8  Ffrainc

Y gemau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymry v. Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

16 Ionawr 1909
 Cymru 8 - 0 [1]  Lloegr
Cais: Hopkins
Williams
Trosiad: Bancroft [2]

Cymru: Jack Bancroft (Abertawe), Phil Hopkins (Abertawe), Billy Trew (Abertawe) capt., Johnny Williams (Caerdydd), Jack Jones (Casnewydd), Dick Jones (Abertawe), Dicky Owen (Abertawe), Jake Blackmore (Abertyleri), George Travers (Pill Harriers), George Hayward (Abertawe), John Alf Brown (Caerdydd), Billy O'Neill (Caerdydd), Jim Webb (Abertyleri), Tom Evans (Llanelli), Ivor Morgan (Abertawe)

Lloegr: Edward John Jackett (Caerlŷr), Edgar Mobbs (Northampton), Frank Tarr (Prifysgol Rhydychen), E W Assinder (Old Edwardians), B B Bennetts (Penzance), J Davey (Redruth) T G Wedge (St. Ives), JG Cooper (Mosley), Robert Dibble (Bridgwater & Albion) capt., W A Johns (Caerloyw), Alf Kewney (Caerlŷr), Alfred Warrington-Morris (US Portsmouth), F G Handford (Manceinion), H Archer (Ysbyty Guy's), Ernest Ibbitson (Headingley)


Yr Alban v. Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

6 Chwefror 1909
 yr Alban 3 - 5 [3]  Cymru
Cosb: Cunningham Cais: Trew
Trosiad: Bancroft
Inverleith, Caeredin
Dyfarnwr: R W Jeffares(Iwerddon)

Yr Alban: D G Schulze (Coleg y Llynges Frenhinol, Dartmouth), A W Angus (Watsonians), H Martin (Edinburgh Academicals), Colin Gilray (Albanwyr Llundain), J T Simson (Watsonians), George Cunnigham (Prifysgol Rhydychen), J M Tennant (Gorllewin yr Alban), A Ross (Royal HSFP), G M Frew (Glasgow HSFP), J C MacCallum (Watsonians), J S Wilson (Albanwyr Llundain), G C Gowlland (Albanwyr Llundain), J M MacKenzie (Prifysgol Caeredin), J M B Scott (Edinburgh Academicals.) capt., W E Kyle (Hawick)

Cymru: Jack Bancroft (Abertawe), Mel Baker (Casnewydd), Billy Trew (Abertawe) capt., Johnny Williams (Caerdydd), Jack Jones (Casnewydd), Dick Jones (Abertawe), Dicky Owen (Abertawe), Edwin Thomas Maynard (Casnewydd), George Travers (Pill Harriers), Dick Thomas (Aberpennar), John Alf Brown (Caerdydd), Jim Webb (Abertyleri), Tom Evans (Llanelli), Ivor Morgan (Abertawe), James Watts (Llanelli)


Iwerddon v. Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

 Iwerddon 5 – 11  Lloegr
Cais: Parke
Trosiad: Pinion
Cais: Palmer (2)
Mobbs
Trosiad: Palmer

Iwerddon: W P Hinton (Old Wesley), H B Thrift (Wanderers), James Cecil Parke (Monkstown), C Thompson (Collegians), EC Deane (Monkstown), F N B Smartt (Prifysgol Dulyn), G Pinion (Monkstown), G T Hamlet (Old Wesley), T Smyth (Malone), O J S Piper (Cork Constitution), F Gardiner (C R Gogledd yr Iwerddon) capt., C Adams (Old Wesley), B A Solomons (Prifysgol Dulyn), H G Wilson (Malone), M G Garry (Bective Rangers)

Lloegr: Edward John Jackett (Caerlŷr), Edgar Mobbs (Northampton), Cyril Wright (Prifysgol Caergrawnt), Ronnie Poulton-Palmer (Prifysgol Rhydychen), A C Palmer (Ysbytai Llundain), Frank Hutchinson (Headingley) H J H Sibree (Harlequins), H J S Morton (Prifysgol Caergrawnt), Robert Dibble (Bridgwater & Albion) capt., W A Johns (Caerloyw), Alf Kewney (Caerlŷr), A J Wilson (Ysgol Mwynau Camborne), F G Handford (Manceinion), H Archer (YsbytyGuy's), Ernest Ibbitson (Headingley)


Yr Alban V. Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

27 Chwefror 1909
 yr Alban 9 - 3 [4]  Iwerddon
Cais: Lindsay-Watson
McGregor
Kyle
Cosb: Parke
Inverleith, Caeredin
Dyfarnwr: Vincent Cartwright (Lloegr)

Yr Alban: D G Schulze (Coleg y Llynges Frenhinol, Dartmouth), J Pearson (Watsonians), T Sloan (Albanwyr Llundain), R H Lindsay-Watson (Hawick), J T Simson (Watsonians), John MacGregor (Prifysgol Caeredin), J M Tennant (Gorllewin yr Alban), A Ross (Royal HSFP), G M Frew (Glasgow HSFP), J C MacCallum (Watsonians), C D Stuart (Gorllewin yr Alban), W E Lely (Albanwyr Llundain), J M MacKenzie (Prifysgol Caeredin), JMB Scott (Edinburgh Academicals.) capt., W E Kyle (Hawick)

Iwerddon: W P Hinton (Old Wesley), H B Thrift (Wanderers), James Cecil Parke (Monkstown), C Thompson (Collegians]), R M Magrath (Cork Constitution), F Gardiner (C R Gogledd yr Iwerddon) capt., G Pinion (Monkstown), G T Hamlet (Old Wesley), T Smyth (Malone), O J S Piper (Cork Constitution), T Helpin (Garryowen), J C Blackham (Coleg Queens , Corc]]), B A Solomons (Prifysgol Dulyn), HG Wilson (Malone), M G Garry (Bective Rangers)


Cymru v. Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

13 Mawrth 1909
 Cymru 18 – 5 [5]  Iwerddon
Cais: Jack Jones
Hopkins
Watts
Trew
Trosiad: Bancroft (3)
Cais Thompson
Trosiad: Parke
Maes St Helen Abertawe
Dyfarnwr: F C Potter-Irwin (Lloegr)

Cymru: Jack Bancroft (Abertawe), Phil Hopkins (Abertawe), Billy Trew (Abertawe) capt., Johnny Williams (Caerdydd), Jack Jones (Casnewydd), Dick Jones (Abertawe), Dicky Owen (Abertawe), Edwin Thomas Maynard (Casnewydd), George Travers (Pill Harriers), Rees Thomas (Pont-y-pŵl), Phil Waller (Casnewydd), Jim Webb (Abertyleri), Tom Evans (Llanelli), Ivor Morgan (Abertawe), James Watts (Llanelli)

Iwerddon: G J Henebrey (Garryowen), H B Thrift (Wanderers), James Cecil Parke (Monkstown), C Thompson (Collegians), T J Greeves (C R Gogledd yr Iwerddon), F M McCormac (Wanderers), G Pinion (Monkstown), G T Hamlet (Old Wesley) capt., T Smyth (Malone), O J S Piper (Cork Constitution), T Helpin (Garryowen), J C Blackham (Coleg Queens, Corc]]), B A Solomons (Prifysgol Dulyn), H G Wilson (Malone), M G Garry (Bective Rangers)


Lloegr v. Yr Alban[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr anghydfod rhwng Yr Alban a Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu rhywfaint o amheuaeth os byddai pencampwriaeth 1909 yn cael ei chwblhau wedi i'r Alban rhoi gwybod i Loegr nad oeddent am chware yn eu herbyn. Roedd rygbi yn gêm amatur ar y pryd a ni chaniatawyd derbyn unrhyw dâl am chwarae ac eithrio ad-daliad o dreuliau megis costau teithio. Ym 1905 chwaraeodd Lloegr yn erbyn tîm Seland Newydd oedd ar daith i Ynysoedd Prydain. Cafodd tîm yr Alban gwybod bod aelodau'r timau wedi derbyn "lwfans byw" o £1 yr wythnos ar ben eu treuliau dilys (gwerth llafur o tua £400 yn 2020).[6] Ym marn yr Alban roedd y lwfans byw yn gyfystyr a chyflog am chware. Roedd awdurdodau rygbi Lloegr (ond nid y gwledydd eraill) yn ymwybodol o'r lwfans ac wedi cytuno i'r trefniant, a thrwy hynny yn euog o ganiatáu torri'r rheol amatur.[7]

Roedd yr Alban eisiau sicrwydd na fydd undeb Lloegr yn chwarae unrhyw gêm gyda thîm trefedigaethol yn y dyfodol oni bai eu bod wedi derbyn bendith Undebau'r Alban, Iwerddon a Chymru. Cytunodd Iwerddon â'r Alban, gwrthododd Lloegr dderbyn yr archiad ac arhosodd Cymru niwtral.[8] Penderfynodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol nad oedd gan yr Alban hawl i ganslo gêm ryngwladol yn unfrydol heb ganiatâd y bwrdd. Mewn cyfarfod o'r bwrdd yng Nghaeredin cytunodd cynrychiolwyr Lloegr, Cymru a'r Iwerddon nad oedd gan yr Alban hawl i dorri cyhoeddiad yn annibynnol heb ganiatâd y bwrdd. Ar y mater os oedd Lloegr wedi torri'r rheolau roedd Iwerddon a'r Alban o'r farn eu bod a Chymru a Lloegr o'r farn nad oeddynt. Cytunodd y pedair undeb na ddylid caniatáu taliadau o lwfans byw i unrhyw dîm teithiol arall.[9] Cytunodd yr Alban a Lloegr i chwarae yn erbyn ei gilydd yn y pendraw.

Y gêm[golygu | golygu cod y dudalen]

20 Mawrth 1909
 Lloegr 8 – 18 [10]  yr Alban
Cais: Mobbs
Watson
Trosiad: Palmer
Cais: Tennent (2)
Gilray
Simson
Trosiad: Cunnigham (3)

Lloegr: Edward John Jackett (Caerlŷr), Edgar Mobbs (Northampton), Cyril Wright (Prifysgol Caergrawnt), Ronnie Poulton-Palmer (Prifysgol Rhydychen), A C Palmer (Ysbytai Llundain), Frank Hutchinson|F Hutchinson (Leeds Carnegie|Headingley) H JH Sibree (Harlequins), H J S Morton (Prifysgol Caergrawnt), Robert Dibble (Bridgwater & Albion) capt., W A Johns (Caerloyw), Alf Kewney (Caerlŷr), Harold Harrison (Môr-filwyr Brenhinol), F G Handford (Manceinion), FB Watson (Portsmouth), Ernest Ibbitson|ET Ibbitson (Headingley)

Yr Alban: DG Schulze (Coleg y Llynges Frenhinol, Dartmouth), J Pearson (Watsonians), H Martin (Edinburgh Academicals), Colin Gilray (Albanwyr Llundain), J T Simson (Watsonians), George Cunningham (Prifysgol Rhydychen) capt., J M Tennant (Gorllewin yr Alban), James Reid Kerr (Greenock Wanderers), G M Frew (Glasgow HSFP), J C MacCallum (Watsonians), A R Moodie (Prifysgol San Andreas), G C Gowlland (Albanwyr Llundain), J M MacKenzie (Prifysgol Caeredin), J M B Scott (Edinburgh Academicals.), W E Kyle (Hawick)

Gemau tu allan i'r bencampwriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Lloegr v. Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]

30 Ionawr 1909
 Lloegr 22 – 0 [11]  Ffrainc
Cais: Hutchinson
Mobbs
Johns
Simms
Tarr
Trosiad: Jackett (2)
Welford Road Stadium, Caerlŷr
Maint y dorf: 15,000
Dyfarnwr: W Williams (Lloegr)

Lloegr: Edward John Jackett (Caerlŷr), Edgar Mobbs (Northampton), Frank Tarr (Caerlŷr), Ronnie Poulton-Palmer (Prifysgol Rhydychen), T Simpson, Frank Hutchinson (Headingley) R H Williamson, C A Bolton, Robert Dibble] (Bridgwater & Albion) capt., WA Johns (Caerloyw), Alf Kewney (Caerlŷr), AD Warrington-Morris, FG Handford (Manceinion), H Archer ([Ysbyty Guy's Hospita]), Ernest Ibbitson (Headingley)

Ffrainc: J Caujolle, T Varvier (Stade Français), H Houblain, E Lesieur (Stade Français), Gaston Lane (Racing Club de France), A Hubert (Association Sportive Français), A Theuriet, A Masse (Stade Bordelais Universitaire), R Duval, P Guillemin, J Icard, R de Malmann (Racing Club de France), Marcel Communeau (Stade Français) capt., G Borchard, G Fourcade


Ffrainc v. Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

23 Chwefror 1909
 Ffrainc 5 – 47 [12]  Cymru
Cais: Sagot
Trosiad: Sagot
Cais: Baker (3)
Jones (2)
Trew (3)
Watts
Williams
Trosiad: Bancroft (6)
Trew
Stade Colombes, Paris
Maint y dorf: 8,000
Dyfarnwr: W Williams (Lloegr)

Ffrainc: E de Jouvencel, T Varvier (Stade Français), P Sagot, E Lesieur (Stade Français), Gaston Lane (Racing Club de France), A Hubert (Association Sportive Français), A Theuriet, A Masse (Stade Bordelais Universitaire), P Dupre, P Mauriat (Lyon), J Icard, R de Malmann (Racing Club de France), Marcel Communeau (Stade Français) capt., G Borchard, G Fourcade

Cymru: Jack Bancroft (Abertawe), Mel Baker (Casnewydd), Billy Trew (Abertawe) capt., Johnny Williams (Caerdydd), Jack Jones (Casnewydd), Dick Jones (Abertawe), Dicky Owen (Abertawe), Edwin Thomas Maynard (Casnewydd), Thomas Lloyd (Castell-nedd), Rees Thomas (Pont-y-pŵl), Phil Waller (Casnewydd), Jim Webb (Abertyleri), Tom Evans (Llanelli), Ivor Morgan (Abertawe), James Watts (Llanelli) [13]


Iwerddon vs. Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]

20 Mawrth 1909
 Iwerddon 19 – 8 [14]  Ffrainc
Cais: Gardiner
O'Connor
Thompson (2)
Trosiad: Gardiner
Parke
Cosb: Parke
Cais: Hourdebaigt
Lane
Mauriat
Lansdowne Road, Dulyn
Maint y dorf: 7,000
Dyfarnwr: W Williams (Lloegr)

Iwerddon: G J Henebrey (Garryowen), H B Thrift (Wanderers), James Cecil Parke (Monkstown), C Thompson (Collegians), T J Greeves (C R Gogledd yr Iwerddon), J J O'Connor, G Pinion (Monkstown), G T Hamlet (Old Wesley), C Adams (Old Wesley), O J S Piper (Cork Constitution), T Helpin (Garryowen), J C Blackham (Coleg Queens, Corc), B A Solomons (Prifysgol Dulyn), F Gardiner (C R Gogledd yr Iwerddon) capt., M G Garry (Bective Rangers)

Ffrainc: E de Jouvencel, M Burgun, F Mouronval, E Lesieur (Stade Français), Gaston Lane (Racing Club de France), A Hubert (Association Sportive Français), C Martin, M Legraine, P Guillemin, P Mauriat (Lyon), M Hourdebaigt, R de Malmann (Racing Club de France), Marcel Communeau (Stade Français) capt., G Borchard, J Gommes

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • "6 Nations History". rugbyfootballhistory.com. Cyrchwyd 2021-01-31.
Rhagflaenydd
Y Pedair Gwlad 1908
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad
1909
Olynydd
Y Pum Gwlad 1910

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "ROSE V LEEK - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-01-16. Cyrchwyd 2021-02-07.
  2. "THE WELSH SCORERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-01-16. Cyrchwyd 2021-02-03.
  3. "Saturday's Big Match - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-02-08. Cyrchwyd 2021-02-07.
  4. "IRELAND DEFEATED - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-03-01. Cyrchwyd 2021-02-07.
  5. "Wales Wins Triple Crown - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-03-15. Cyrchwyd 2021-02-07.
  6. MeasuringWorth adalwyd 7 Chwefror 2021
  7. "SCOTLAND CALLS OFF - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-01-13. Cyrchwyd 2021-02-07.
  8. "THE RUGBY CRISIS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-01-14. Cyrchwyd 2021-02-07.
  9. "RUGBY RUPTURE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-02-06. Cyrchwyd 2021-02-07.
  10. "Scotland v England - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-03-22. Cyrchwyd 2021-02-07.
  11. "ENGLAND V FRANCE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-01-30. Cyrchwyd 2021-02-07.
  12. "Yesterday's Football - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-02-24. Cyrchwyd 2021-02-07.
  13. "ITODAYSMATCHINPARIS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-02-23. Cyrchwyd 2021-02-07.
  14. "Ireland v France - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-03-22. Cyrchwyd 2021-02-07.