Maes Sain Helen
| Math | lleoliad chwaraeon |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1873 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Brynmill |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.6125°N 3.9656°W |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Mae Maes Sain Helen yn lleoliad chwaraeon yn Abertawe, sy'n eiddo i Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer chwarae rygbi'r undeb a chriced, mae wedi bod yn gartref i Glwb Rygbi Abertawe a Chlwb Criced Abertawe ers iddo agor ym 1873.[1] Enwyd y maes ar ôl lleiandy Sain Helen oedd yn arfer sefyll gerllaw y maes.[2] Yn 2025 dychwelodd clwb y Gweilch i'r maes wedi 20 mlynedd yn Stadiwm Swansea.com. Yn dilyn hyn gadawodd criced y maes er mwyn gwneud Sain Helen yn gartref parhaol i rygbi, gan gynnwys creu stadiwm fwy modern.[3]
Yn rygbi'r undeb, Sain Helen oedd lleoliad y gêm gartref gyntaf erioed i dîm cenedlaethol Cymru ym 1882. Parhaodd i gael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan Gymru, yn aml ar gyfer Pencampwriaeth y Pum Gwlad, tan 1954, ond dim ond un gêm ryngwladol llawn y mae wedi'i lwyfannu ers hynny, ym 1997. Yn fwy diweddar, mae'r maes wedi cael ei ddefnyddio gan dîm menywod Cymru.
Criced
[golygu | golygu cod]Mae Clwb Criced Morgannwg wedi defnyddio Sain Helen yn rheolaidd fel maes atodol er 1921. Mae'r maes wedi llwyfannu dau Gêm Ryngwladol Undydd: Lloegr yn erbyn Seland Newydd ym 1973, a gêm yng Nghwpan y Byd 1983 rhwng Pacistan a Sri Lanka. Sain Helen oedd lleoliad chwech chwechawd Syr Garfield Sobers mewn gêm unigol o griced dosbarth cyntaf, y rhediad mwyaf posibl mewn pelawd unigol, a'r tro cyntaf iddo gael ei wneud.
Daeth cyfnod chwarae criced yn Sain Helen i ben ar ôl 150 mlynedd gyda'r gêm gynghrair olaf yn cael ei chwarae ar 30 Awst 2025 gyda rhai gemau cyfeillgar i ddilyn.[3]
Chwaraeon eraill
[golygu | golygu cod]Mae Sain Helen hefyd wedi llwyfannau digwyddiadau mewn sawl camp arall fel digwyddiadau athletau, bocsio, seiclo, hoci, tenis ac hyd yn oed pêl-droed Americanaidd.[4] Yn rygbi'r gynghrair, chwaraeodd Cymru dair gêm ar ddeg yn y maes rhwng 1945 a 1978, dwy ohonynt yn rhan o dwrnamaint Cwpan y Byd 1975. Cynhaliwyd gêm bêl-droed ryngwladol rhwng Cymru a'r Iwerddon yn Sain Helen ym 1894.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ST HELEN'S CRICKET AND RUGBY GROUND, SWANSEA | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2021-02-05.
- ↑ "St Helen's | Cricket Grounds | ESPNcricinfo.com". Cricinfo. Cyrchwyd 2021-02-05.
- ↑ 3.0 3.1 "Gêm Griced Gynghrair olaf yn San Helen". Golwg360. 2025-08-26. Cyrchwyd 2025-09-01.
- ↑ "Sain Helen yn ffarwelio â chriced wedi 150 o flynyddoedd". BBC Cymru Fyw. 2025-08-31. Cyrchwyd 2025-09-01.
- ↑ "WALES V IRELAND - The Cambrian". T. Jenkins. 1894-03-02. Cyrchwyd 2021-02-05.
