Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol merched Cymru

Oddi ar Wicipedia
Tîm rygbi 7-bob-ochr Cymru yn chwarae yn 2015

Chwaraeodd tîm rygbi'r undeb cenedlaethol merched Cymru (neu tîm rygbi'r undeb cenedlaethol menywod Cymru) am y tro cyntaf yn 1987, ac mae'n cystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd i Fenywod bob pedair blynedd a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad i Fenywod yn flynyddol. Mae gan Gymru dîm rygbi 7-bob-ochr cenedlaethol hefyd.

Chwaraewyd y gêm gyntaf swyddogol dan arweiniad Liza Burgess yn erbyn Lloegr ym Mharc Pont-y-pŵl, ac mae'r ddwy wlad wedi chwarae yn erbyn ei gilydd bob blwyddyn ers hynny.[1] Yn 1986, roedd Cymry wedi'u dewis i gynrychioli Prydain Fawr yn erbyn Ffrainc yn Richmond Athletic Ground ym 1986, a chwaraeodd y tîm hwnnw sawl gwaith rhwng hynny a'i gêm derfynol yn erbyn yr Eidal yn 1990.

Cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd cyntaf i fenywod yng Nghaerdydd yn 1991 ac ers hynny mae Cymru wedi cystadlu ym mhedwar o'r pum twrnamaint, gan ddod yn bedwerydd yn 1994.[2] Daeth y gystadleuaeth o dan faner yr IRB yn 1998.

Sefydlwyd Undeb Rygbi Menywod Cymru ym 1994 er mwyn hyrwyddo a llywodraethu datblygiad ac ymarfer Rygbi Menywod yng Nghymru. Cymerodd y tri undeb arall o fewn i ynysoedd Prydain hefyd gyfrifoldeb am eu gweinyddiaeth eu hunain, gan ddod â swyddogaeth yr WRFU i ben yn y broses. Cysylltwyd Undeb Rygbi Menywod Cymru ag Undeb Rygbi Cymru ar yr un pryd.

Gyda hynny hefyd y sefydlwyd cystadleuaeth rhwng gwledydd ynysoedd Prydain ar yr un model â Phencampwriaeth Pum Gwlad y dynion, a chynhaliwyd y gyntaf yn 1995.

Un o uchafbwyntiau'r cyfnod cynnar hwnnw oedd ennill cyfres Brawf yn Ne Affrica, gan guro'r Bokkies o ddwy gêm i ddim yn 1994.

Rhwng 2004 a 2006, arweiniodd polisi o ddewis chwaraewyr a oedd wedi'u lleoli yng Nghymru yn unig at gyfres o ganlyniadau gwael, a methwyd â chyrraedd Cwpan y Byd yn 2006. Newidiwyd y polisi yn 2006, a rhoddodd Gymru gan ddechrau cyfnod llewyrchus i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Cafwyd buddugoliaeth dros Ffrainc yn 2006, buddugoliaethau yn erbyn yr Alban yn 2006 a 2007 (y cyntaf ers deng mlynedd), a buddugoliaeth dros Loegr yn 2009 a Choron Driphlyg i ddilyn. Enillodd y garfan rygbi 7-bob-ochr genedlaethol y teitl 7-bobo-ochr Ewropeaidd yn 2006, gan guro Lloegr yn y rownd derfynol ond methu â sicrhau ei lle yng Nghwpan Rygbi 7-bob-chr y Byd o drwch blewyn yn 2009. Ail-ymunodd Cymru â Phencampwriaeth FIRA yn 2007, gan ddefnyddio'r twrnamaint i roi profiad i'w tîm datblygu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Historic day for England Women's Rugby". rfu.com. 5 April 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 July 2013. Cyrchwyd 6 January 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Women's Rugby World Cup". RugbyFootballHistory.com. t. 1. Cyrchwyd 6 January 2013.