Jake Blackmore

Oddi ar Wicipedia
Jake Blackmore
Ganwyd10 Mawrth 1883 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 1964 Edit this on Wikidata
Aber-bîg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertyleri, Hull Kingston Rovers, Tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Roedd Joseph Henry "Jake" Blackmore (10 Mawrth 1883 - 26 Mawrth 1964) [1] yn flaenwr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi'r undeb i Abertyleri a rygbi'r gynghrair gyda Hull Kingston Rovers. Enillodd un cap i Dîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru ac yna cynrychiolodd ei wlad yn rygbi’r gynghrair mewn dwy gêm rhwng 1910 a 1911. Er iddo ennill dim ond un cap, daeth yn chwaraewr a enillodd y Goron Driphlyg pan chwaraeodd yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1909.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jacob Blackman[nb 1] yn Abertyleri Sir Fynwy, yn blentyn i Jacob Blackmore, glöwr, ac Ann (née Robinson) ei wraig, bu farw ei dad pan oedd Jake 2 oed. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel glöwr cyn ac ar ôl ei gyfnod fel chwaraewr rygbi proffesiynol. Bu farw yn Ysbyty Goffa Aber-bîg yn 81 oed.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Daeth Blackmore i'r amlwg gyntaf fel chwaraewr rygbi pan ymunodd ag Abertyleri ym 1902. [2] Arhosodd Blackmore gydag Abertyleri am fwyafrif ei yrfa amatur, gan dreulio dau dymor yn unig y tu allan i'r tîm pan adawodd ar ôl anghytuno â'r clwb. Yn ystod y ddau dymor hyn bu’n cynrychioli Tredegar gyntaf, ac yna Blaena, cyn dychwelyd i Abertyleri. [3] Ym 1906 dewiswyd Blackmore i gynrychioli sir Fynwy, ac roedd yn rhan o'r tîm a wynebodd dîm cenedlaethol De Affrica ar eu taith dramor gyntaf. Ym 1907, wynebodd Blackmore ei ail dîm cenedlaethol, sef tîm teithiol o Awstralia, fel aelod o dîm Abertyleri. Hwn oedd y tîm cenedlaethol cyntaf i ymweld â Pharc Abertyleri, roedd y gêm yn un gyfartal 3-3.

Ym 1909 enillodd Blackmore ei gap rhyngwladol cyntaf pan gafodd ei ddewis i dîm Cymru i wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1909. Cafodd y gêm ei chwarae ym Mharc yr Arfau Caerdydd, Blackmore oedd yr unig gap newydd yn y tîm, ac ymunodd â Jim Webb, cyd-aelod tîm Abertyleri, yn y pac. Daeth y gêm i ben gyda buddugoliaeth i Gymru, ac er na chwaraeodd Blackmore unrhyw ran bellach yn yr ymgyrch, daeth yn chwaraewr a enillodd y Goron Driphlyg ar ôl i Gymru ennill ddwy gêm arall y gystadleuaeth.

Ym 1910, penderfynodd Blackmore droi’n broffesiynol, a gadawodd Abertyleri i ymuno â'r tîm rygbi cynghrair Saesnig Hull Kingston Rovers.[4] Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Hull Kingston Rovers ar 3 Medi 1910, gan wynebu Dewsbury. [5] Dri mis yn ddiweddarach, ar 10 Rhagfyr, dewiswyd Blackmore ar gyfer tîm rygbi cynghrair Cymru, ar gyfer gêm yn erbyn Lloegr yn Coventry. Collodd Cymru 13-39. [6] Ail-ddewiswyd Blackmore dros Gymru yn y gêm gynghrair nesaf, a gollodd Cymru eto i Loegr, ond y tro hwn ar dir Cymru yng Nglynebwy. [6] Chwaraeodd Jake Blackmore fel blaenwr, sef rhif 10, pan gollodd Hull Kingston Rovers o 10-22 i Huddersfield yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth Cwpan Sirol Swydd Efrog 1911-12. [7]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru (rygbi'r undeb )

 Lloegr 1909

Cymru (rygbi'r gynghrair)

 Lloegr 1910, 1911

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Billot, John (1974). Springboks in Wales. Glynrhedyn, Morgannwg: Ron Jones Publications.
  • Gate, Robert (1986). Gone North: Volume 1. Ripponden: R.E. Gate. ISBN 0-9511190-0-1.
  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Grafton Street, London: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Irene; Thomas, Keith (1983). Abertillery Rugby Football Club 1883-1983. Barry: Stewart Williams. ISBN 0-900807-57-1.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jake Blackmore player profile Scrum.com
  2. Thomas (1983), tud 17.
  3. Thomas (1983), tud 91.
  4. "FOOTBALL - The Merthyr Express". Harry Wood Southey. 1910-08-13. Cyrchwyd 2021-04-22.
  5. Jenkins (1991), tud 22.
  6. 6.0 6.1 Gate (1986), tud 141.
  7. Irvin Saxton (publish date tbc) "History of Rugby League - № 17 - 1911-12". Rugby Leaguer ISBN n/a

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae'r enw yn cael ei sillafu yn Blackman a Blackmore ar wahanol ddogfennau a gan wahanol aelodau o'r teulu, Blackman sydd ar y mynegai i enedigaethau