Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Lloegr tîm rygbi cenedlaethol)
Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr yn cynrychioli Lloegr mewn gemau rhyngwladol Rygbi'r Undeb. Ffurfiwyd y tîm yn 1871, pan chwaraewyd gêm yn erbyn yr Alban, gan golli o un cais i ddim.
Maent yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan ennill y bencampwriaeth 25 o weithiau a'i rhannu 10 o weithiau, a chyflawni'r Gamp Lawn 12 gwaith ac ennill y Goron Driphlyg 23 gawith. Enillasant Gwpan y Byd yn 2003, a cholli yn y gêm derfynol yn 1991 a 2007.