Clwb Rygbi Abertawe
![]() | ||
Enw llawn | Clwb Rygbi Abertawe | |
---|---|---|
Llysenw/au | Y Jacs Y Crysau Gwynion | |
Sefydlwyd | 1872[1] | |
Lleoliad | Abertawe ![]() | |
Maes/ydd | Maes St Helen Abertawe (Nifer fwyaf: 4,500) | |
|
Mae Clwb Rygbi Abertawe yn dîm rygbi'r undeb Cymreig sy'n chwarae yn Prifadran Cymru. Mae'r clwb yn chwarae ar Faes Rygbi a Chriced St Helen yn Abertawe ac fe'u gelwir hefyd Y Crysau Gwynion gan gyfeirio at liw eu cit cartref a'r Jacs, llysenw am bobl o Abertawe.
Hanes[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd y clwb ym 1872 [2] fel tîm pêl-droed y gymdeithas, gan newid i'r côd rygbi ym 1874. Ym 1881 daeth yn un o'r 11 o glybiau sylfaen Undeb Rygbi Cymru . [3] [4]

Hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]
Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif roedd Clwb Rygbi Abertawe yn glwb hynod lwyddiannus. Am bedwar tymor yn olynol, rhwng tymor 1898/99 hyd dymor 1901/02, Abertawe oedd pencampwyr answyddogol Cymru. Dyma oedd cyfnod anterth seren gyntaf Abertawe, Billy Bancroft O dan gapteiniaeth Frank Gordon byddai'r tîm yn ddiweddarach yn mynd ar rediad diguro o 22 mis, o fis Rhagfyr 1903 hyd at Hydref 1905. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn ymddangos nad oedd Abertawe yn cael chware teg gan ddewiswyr rhyngwladol Cymru. O ystyried eu llwyddiant ar lefel clwb, prin oedd y rhai a dewiswyd i chwarae i Gymru yn y blynyddoedd cynnar o gymharu â chlybiau eraill. Aeth Frank Gordon heb gap trwy gydol ei yrfa. Ar wahân i Billy Trew, Dick Jones a Dicky Owen, yr unig chwaraewyr rhyngwladol eraill yn y tîm oedd y blaenwr Sid Bevan (1 cap), [5] yr asgellwr Fred Jowett (1 cap) [6] a'r maswr Phil Hopkins (4 cap). [7] Roedd Trew (29 cap) yn ganolwr rhagorol a gafodd ei derbyn fel un o'r chwaraewyr pwysicaf yn esblygiad rygbi Cymru, [1] tra bod Dicky Owen (35 cap), yn dactegydd anhygoel. [8]
Ar ôl y rhyfel hyd y 1990au[golygu | golygu cod]
Dim ond llwyddiant cyfyngedig a ddaeth yn ystod y blynyddoedd uniongyrchol ar ôl y rhyfel, er y cafwyd gêm gyfartal nodedig o 6 phwynt yr un yn erbyn Seland Newydd ym 1953 ac yna buddugoliaeth o 9-8 yn erbyn Awstralia ym 1966. Bu'n rhaid disgwyl hyd dymor canmlwyddiant y clwb ym 1973/74, i ddod i frig y Tabl Teilyngdod. Cafodd Abertawe lwyddiant pellach fel pencampwyr y clybiau ym 1979/80, 1980/81, 1982/83 yn ogystal â bod yn enillwyr cwpan Cymru ym 1978.
Ymhlith y chwaraewyr yn ystod y cyfnod hwn roedd Clem Thomas, Billy Williams, Dewi Bebb, Mervyn Davies, Geoff Wheel, David Richards a Mark Wyatt, deiliad record sgoriwr pwyntiau'r clwb gyda 2,740 o bwyntiau wedi'u sgorio rhwng 1976/77 a 1991/92.
1990 i ddiwedd y mileniwm[golygu | golygu cod]
Gwelodd y 1990au lwyddiant i'r clwb, gan gynnwys bod yn bencampwyr y brifadran ar 4 achlysur (1991/92, 1993/94, 1997/98 a 2000/01) ac enillwyr cwpan Cymru ym 1995 a 1999. Cofnodwyd buddugoliaeth gofiadwy 21-6 dros bencampwyr y Byd, Awstralia, ar Faes St Helen ar 4 Tachwedd 1992. Yn nhymor 1995/96 fe gyrhaeddodd Abertawe gam rownd cynderfynol Cwpan Ewrop. Roedd y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys anghydfodau ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y ffordd yr oedd strwythur y gynghrair yn cael ei redeg yng Nghymru yn dilyn troi rygbi'r undeb i fod yn gêm broffesiynol, a ddaeth i ben gyda'r clwb yn gwrthod bod yn rhan o'r gynghrair yn nhymor 1998/99. [9]
Ers dechrau'r Mileniwm[golygu | golygu cod]
Roedd tymor 2003/04 yn un lle gwelwyd newid sylweddol gyda chyflwyniad rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae Clwb Rygbi Abertawe Cyf, â Chlwb Rygbi Castell-nedd yn gydberchnogion tîm rhanbarthol y Gweilch. O ganlyniad, dychwelodd Clwb Rygbi Abertawe i fod yn dîm amatur. Ers y newid i rygbi rhanbarthol mae sawl chwaraewr wedi chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, yn ogystal â'r Gweilch a Chymru gan gynnwys Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Scott Baldwin, Nicky Smith, Matthew Morgan, Eli Walker, Gavin Henson a Dan Biggar.
Yn 2014 cafodd yr Y Crysau Gwynion eu gostwng o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor, er gwaethaf curo Castell-nedd yn St Helen. Bu pwynt bonws i Aberafan yn ddigon i ddanfon Abertawe i lawr i Bencampwriaeth SWALEC. Ysgogodd hyn ailwampiad llwyr o’r clwb gyda Stephen Hughes yn cymryd swydd y Cadeirydd, Keith Colclough yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Richard Lancaster yn arwain tîm hyfforddi o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Rhodri Jones, Chris Loader a Ben Lewis. Yn eu tymor cyntaf fe fethodd Abertawe ennill dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair, gan orffen yn yr ail safle. Ond o ganlyniad i newid strwythur y cynghrair fe'u dyrchafwyd yn nhymor 2015/16 gyda Merthyr, RGC 1404 a Bargoed.
Cafodd Abertawe drafferth i addasu i’r Uwch Gynghrair yn eu dau dymor cyntaf yn ôl ar yr haen uchaf er gwaethaf rhestr anafiadau llethol, dangosodd tymor 1917/18 lawer o addewid gyda’r ochr yn recordio pum buddugoliaeth, gêm gyfartal a 10 pwynt bonws am golli’r gêm o fewn 7 pwynt.
Bu'n rhaid gohirio tymor 2019/20 a 2020/21 oherwydd COVID-19
Merched Clwb Rygbi Abertawe[golygu | golygu cod]
Ar gyfer tymor 2016/17 sefydlwyd tîm Merched Clwb Rygbi Abertawe ac ers hynny maent wedi ennill yr Uwch Gynghrair gefn wrth gefn. Yn 2019 fe wnaethant ennill Cwpan y Merched am y trydydd tymor yn olynol. Maent hefyd yn darparu craidd o chwaraewyr i garfan merched Cymru. [10]
Llwyddiannau[golygu | golygu cod]
Trechodd Clwb Rygbi Abertawe Seland Newydd 11-3 ddydd Sadwrn 28 Medi 1935, gan ddod yr ochr clwb gyntaf erioed i guro'r Crysau Duon. [11] Fe wnaeth y fuddugoliaeth hefyd eu gwneud y tîm clwb cyntaf i guro pob un o'r tri thîm teithiol mawr i Brydain. Roeddent eisoes wedi curo Awstralia ym 1908 a De Affrica ym 1912. [12]
Ym mis Tachwedd 1992, trechodd Clwb Rygbi Abertawe bencampwyr y byd Awstralia 21–6, pan chwaraeodd Awstralia eu gêm gyntaf o’u Taith Gymreig.
Pencampwyr Prifadran Cymru yn:
- 1991/1992
- 1993/1994
- 1997/1998
- 2000/2001
Pencampwyr Cwpan Her URC yn:
- 1977/1978
- 1994/1995
- 1998/1999
Pencampwyr Tabl Teilyngdod Whitbread yn:
- 1980/1981
Pencampwyr Tlws Saith Pob Ochr Cymru yn:
- 1982
- 1989
- 1991
- 1995
Llewod Prydeinig a Gwyddelig[golygu | golygu cod]
Dewiswyd y cyn-chwaraewyr canlynol ar gyfer sgwadiau teithiol Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.
|
|
Capteiniaid Rhyngwladol Cymru[golygu | golygu cod]
Bu'r cyn-chwaraewyr canlynol yn gapten ar dîm undeb rygbi cenedlaethol Cymru wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.
|
|
Cyn-chwaraewyr nodedig eraill[golygu | golygu cod]
Mae'r chwaraewyr a restrir isod wedi chwarae i Abertawe a hefyd wedi chwarae rygbi rhyngwladol.
Huw Bennett
Sid Bevan
Ben Beynon
Eddie Beynon
Dan Biggar
Edward Bishop
Len Blyth
Roger Blyth
Bleddyn Bowen
George Bowen
William Bowen
Ian Buckett
Colin Charvis
Barry Clegg
Anthony Clement
Maurice Colclough
Malcolm Dacey
Claude Davey
George Davies
Hopkin Davies
Howard Davies
Idwal Davies
Parch Jenkin Alban Davies
Leslie Davies
Mark Davies
Mervyn Davies
Sam Davies
Sgili Davies
Stuart Davies
Terry Davies
Willie Davies
Tom Day
Lewis Dick
Tom Deacon
Alun Donovan
Dan Dorsey
Pat Dunkley
Arthur Emyr
Ben Evans
D B Evans
Islwyn Evans
Trefor Evans
Walter Rice Evans
Stuart Evans
John Fauli
Norman Gale
Scott Gibbs
Samuel Goldsworthy
Frank Gordon
James Griffiths
David Gwynn
William Gwynn
Rowe Harding
George Hayward
Gavin Henson
Harry Hiams
Richard Hibbard
Bert Hollingdale
Kevin Hopkins
Phil Hopkins
Tom Hopkins
William Howell
Dick Huxtable
David James
Evan James
Tom Jackson
Albert Jenkin
David Jenkins
Garin Jenkins
Howell John
Alun Wyn Jones
Dick Jones
Dai Jones
Howie Jones
Joe Jones
Robert Jones
Roy Jones
Ryan Jones
Dil Johnson
Will Joseph
Fred Jowett
Mark Keyworth
Jim Lang
John Leleu
Bryn Lewis
Geraint Lewis
Howell Lewis
Brian Lima
Christian Loader
Eddie Long
Phil Llewellyn
Haydn Mainwaring
Sililo Martens
Robin McBryde
William McCutcheon
Gwilym Michael
John Meredith
Frank Mills
Andy Moore
Steve Moore
Dai Morgan
Eddie Morgan
Edgar Morgan
Ivor Morgan
Guy Morgan
Kevin Morgan
Matthew Morgan
Paul Moriarty
Richard Moriarty
George Morris
Darren Morris
Ivor Morris
Ronnie Morris
Albert Owen
Dicky Owen
Stuart Parfitt
Dai Parker
Tom Parker
Will Parker
Frank Palmer
Harry Payne
Tom Prydie
Richie Pugh
Frank Purdon
Horace Phillips
Dan Rees
Doug Rees D
Evan Rees
Idwal Rees
Joe Rees
Richard Rees
Alan Reynolds
Dai Richards
Evan Richards
Matthew Robinson
Clive Rowlands
Mike Ruddock
Fred Scrine
David Samuel
John Samuel
Tony Swift
Haydn Tanner
Don Tarr
Bleddyn Taylor
Mark Taylor
Arwel Thomas
Bob Thomas
Clem Thomas
Dai Thomas
Dai Thomas
Watcyn Thomas[20]
Rory Thornton
Mark Titley
William Towers
Billy Trew
Eli Walker
Mark Wyatt
David Weatherley
Richard Webster
David Weaver
Geoff Wheel
Aled Williams
Brynmor Williams
Billy Williams
Clive Williams
Tom Williams
Tudor Williams
Nik Witkowski
Dai Young
Gemau yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Dyddiad | Gwlad | Canlyniad | Sgôr | Taith |
---|---|---|---|---|---|
1888 | 24 Rhagfyr | ![]() |
Colli | 0–5 | 1888–89 Taith Māori Seland Newydd |
1905 | 30 Rhagfyr | ![]() |
Colli | 3–4 | 1905 Taith y Crysau Duon Gwreiddiol |
1908 | 26 Rhagfyr | ![]() |
Ennill | 6–0 | 1908–09 Taith Awstralia o amgylch Prydain |
1912 | 26 Rhagfyr | ![]() |
Ennill | 3–0 | 1912–13 Taith De Affrica o amgylch Ewrop |
1931 | 10 Hydref | ![]() |
Colli | 3–10 | 1931–32 Taith De Affrica o amgylch Prydain ac Iwerddon |
1935 | 28 Medi | ![]() |
Ennill | 11–3 | 1935–36 Taith Seland Newydd o amgylch Prydain, Iwerddon a Chanada |
1951 | 15 Rhagfyr | ![]() |
Colli | 3–11 | 1951–52 Taith De Affrica o amgylch Ewrop |
1953 | 12 Rhagfyr | ![]() |
Cyfartal | 6–6 | 1953–54 Taith Seland Newydd |
1963 | 14 Rhagfyr | ![]() |
Colli | 9–16 | 1963–64 Taith Seland Newydd |
1966 | 26 Tachwedd | ![]() |
Ennill | 9–8 | 1966–67 Taith Awstralia o amgylch Prydain, Iwerddon a Ffrainc |
1973 | 8 Medi | ![]() |
Colli | 0–31 | 1973 Taith Fiji o amgylch Ynysoedd Prydain a Chanada |
1973 | 3 Tachwedd | ![]() |
Cyfartal | 9–9 | 1973 Taith undeb rygbi Awstralia o amgylch Ewrop[21] |
1975 | 29 Tachwedd | ![]() |
Colli | 6-12 | 1975–76 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon[22] |
1980 | 25 Hydref | ![]() |
Colli | 0-32 | 1980 Taith Seland Newydd[23] |
1981 | 28 November | ![]() |
Colli | 3-12 | 1981–82 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon[24] |
1982 | 30 Hydref | ![]() |
Ennill | 15-12 | 1982 Taith Māori Seland Newydd |
1984 | 30 Hydref | ![]() |
Colli | 7-17 | 1984 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon |
1985 | 16 Hydref | ![]() |
Colli | 14–23 | 1985 Taith Fiji o amgylch Ynysoedd Prydain |
1989 | 21 Hydref | ![]() |
Colli | 22–37 | 1989 Taith Seland Newydd o amgylch Ynysoedd Prydain a Chanada |
1992 | 4 Tachwedd | ![]() |
Ennill | 21–6 | 1992 Taith Awstralia o amgylch Europe |
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur Lynch (2008) pp792 ISBN 978-0-7083-1954-3
- ↑ David Farmer ("The All Whites - the Life & Times of Swansea RFC" (DFPS Ltd 1995)p1
- ↑ Swansea Rugby Football Club 1873-1945 Book - Images of Sport, Bleddyn Hopkins. Tempus Publishing
- ↑ Smith (1980), tud 41.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Smith (1980), tud 463.
- ↑ Smith (1980), tud 468.
- ↑ Smith (1980), tud 134.
- ↑ Smith (1980), tud 132.
- ↑ Laybourn, Ian (22 August 1998). "Rebel clubs secede from WRU". The Independent. Independent Print Limited.
- ↑ "Wales stars set for Principality Stadium". Six Nations Rugby. 2019-05-03. Cyrchwyd 2021-02-24.
- ↑ All Blacks: 288th All Black Game
- ↑ "28 September down the years All Blacks humbled at St. Helens". ESPN. Cyrchwyd 27 December 2017.
- ↑ Smith (1980), tud 472.
- ↑ Smith (1980), tud 464.
- ↑ "Frederick Graham Andrews". ESPN scrum. Cyrchwyd 2021-02-25.
- ↑ Websites - 3bit.co.uk, We Build. "Chris Anthony | Dragons Player". www.dragonsrugby.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-25.
- ↑ "Past Player Profile – The Legend Paul Arnold – Carmarthen Quins : Official Website" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-25.
- ↑ "BANCROFT, WILLIAM JOHN (1871-1959), chwaraewr rygbi a chriced. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-25.
- ↑ "Obituary: Dewi Bebb". The Independent. 2011-10-23. Cyrchwyd 2021-02-25.
- ↑ Smith (1980), tud 473.
- ↑ Jenkins, Vivian (1974). Rothmans Rugby Yearbook 1974–75. Queen Anne Press. t. 36. ISBN 0-362-00173-1.
- ↑ Jenkins, Vivian (1976). Rothmans Rugby Yearbook 1976–77. Queen Anne Press. t. 22. ISBN 0-362-00281-9.
- ↑ Jenkins, Vivian (1982). Rothmans Rugby Yearbook 1981–82. Rothmans Publications Ltd. t. 42. ISBN 0-907574-05-X.
- ↑ Jenkins, Vivian (1983). Rothmans Rugby Yearbook 1982–83. Rothmans Publications Ltd. t. 24. ISBN 0-907574-13-0.