William Bowen

Oddi ar Wicipedia
William Bowen
GanwydGorffennaf 1862 Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw1925 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata

Roedd William Arnold Bowen (1862 - 26 Medi 1925) yn chwaraewr rygbi'r undeb ryngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe ac a gafodd ei gapio 13 gwaith dros Gymru. Bu Bowen yn gapten ar Gymru ar un achlysur.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bowen yn Nhref Penfro, Sir Benfro, yn blentyn i Thomas Bowen, teiliwr, a Martha ei wraig. Pan oedd William tua 3 mlwydd oed symudodd y teulu i fyw i Abertawe. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel Plastrwr ac adeiladwr tai. Bu Bowen yn briod ddwywaith. Ym 1893 priododd Lilian Welsford, merch William Welsford, Caerllion; bu iddynt o leiaf pedwar o blant. Wedi i Lilian marw priododd Ann Ewart ym 1910 gan gael o leiaf un plentyn arall.

Bu farw yn ei gartref 12, Gwydr Cresent, Abertawe yn 63 mlwydd oed [1] , a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys San Pedr, Y Cocyd, Abertawe.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Dewiswyd Bowen gyntaf i chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr yn y Rectory Field, Blackheath ym 1886 dan gapteiniaeth Charlie Newman. Er i Gymru golli'r gêm, roedd y wasg ar y cyfan yn gadarnhaol o chwarae Cymru gan dynnu sylw at y blaenwyr am eu chwarae cryf. [2] Ail-ddewiswyd Bowen ar gyfer gêm nesaf Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886 y tro hwn yn erbyn yr Alban ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

Ym 1887 chwaraeodd Bowen ym mhob un o dair gêm y bencampwriaeth, gan gynnwys y gêm gyfartal â Lloegr ar faes criced Llanelli a'r fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ym Mharc Penbedw. Nid oedd y gêm yn erbyn yr Alban yn ornest gofiadwy i Gymru, gyda chwaraewyr yr Alban yn sgorio deuddeg cais heb ateb, gan gynnwys pump i George Lindsay. Er i Bowen fethu twrnamaint 1888 fe chwaraeodd yn erbyn tîm Māori teithiol Seland Newydd.

Ar ôl chwarae pob un o bum gêm ym mhencampwriaethau 1889 a 1890, cafodd Bowen y gapteniaeth yn erbyn Lloegr ar 3 Ionawr 1891. Collodd Cymru'r gêm, a phasiwyd y gapteniaeth i William H. Thomas o Lanelli, ond ar y pryd dewiswyd y gapteniaeth gan y chwaraewyr cyn y gêm yn hytrach na chan y detholwyr. [3] Roedd gêm olaf Bowen i Gymru yn erbyn yr Alban yn Raeburn Place mewn buddugoliaeth unochrog arall i dîm yr Alban.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru [4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Goodwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Western Mail 29 Medi 1925 Obituary Rugby International Ex-Captain
  2. Goodwin (1983), tud 13.
  3. Goodwin (1983), tud 27.
  4. Smith (1980), tud 464.