Clive Rowlands

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clive Rowlands
Ganwyd 14 Mai 1938 Edit this on Wikidata
Cwm-twrch Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth hyfforddwr chwaraeon, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/au OBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe, Tîm Rygbi Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
Safle Mewnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr a hyfforddwr rygbi’r undeb yw Daniel Clive Thomas Rowlands (ganed 14 Mai 1938). Enillodd 14 cap dros Gymru, ac yn ddiweddarach bu'n hyfforddwr Cymru. Ganwyd ef yng Nghwmtwrch Uchaf. Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth.

Chwaraeodd i glybiau rygbi Pontypwl, Llanelli ac Abertawe. Bu’n gapten Pontypwl yn ystod tymor 1962 – 63 ac Abertawe yn nhymor 1967 – 1968.Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Lloegr yn 1963. Ef oedd y capten, ac mae ganddo’r record anghyffredin o fod wedi chwarae pob un o’i 14 gêm dros Gymru rhwng 1963 a 1965 fel capten. Arweiniodd Gymru i’r Goron Driphlyg am y tro cyntaf ers 1952.

Yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1963, roedd y tywydd yn wlyb a chymaint o fwd ar y cae nes i Rowlands a David Watkins benderfynu cicio’r bel dros yr ystlys bob cyfle a gaent. O ganlyniad bu 111 o linellau yn ystod y gem yma. Enillodd Cymru’r gêm 6-0, ond o ganlyniad i’r gem yma, newidiodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol y rheolau, fel mai dim ond o’r tu mewn i’w linell 22 ei hun y cai chwaraewr gicio’r bêl yn uniongyrchol dros yr ystlys.

Wedi ymddeol fel chwarewr, bu’n hyfforddwr Cymru am 29 gêm, rhwng 1968 a 1974, y person ieuengaf i fod yn y swydd. Bu’n gyfnod llwyddiannus iawn i’r tîm cenedlaethol, yn cynnwys y Gamp Lawn yn 1971. Bu’n rheolwr tim y Llewod are ei taith i Awstralia yn 1989.