Watcyn Thomas

Oddi ar Wicipedia
Watcyn Thomas
Ganwyd16 Ionawr 1906 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1977 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Waterloo FC, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
SafleWythwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig oedd Watcyn Thomas (16 Ionawr 190610 Awst 1977). Bu'n chwarae tros Gymru rhwng 1927 a 1933. Roedd yn chwarae fel wythwr.

Ganed yn Llanelli, ac addysgwyd ym Mhrifysgol Abertawe. Pan oedd Yn Ysgol y Sir, Llanelli, ef oedd capten cyntaf tîm rygbi Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1924. Ymunodd â Chlwb Rygbi Llanelli, cyn symud i Abertawe yn Rhagfyr 1927. Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth, a symudodd i St Helens yn 1929 i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Cowley. Yn y cyfnod yma, bu'n chwarae rygbi i Waterloo a Swydd Gaerhirfryn; ef oedd capten Swydd Gaerhirfryn pan enillsant y bencampwriaeth yn 1934-35.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1927, yn dilyn perfformiad gwych dros Lanelli yn erbyn tîm y Maori o Seland Newydd. Yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1931, chwaraeodd am 70 munud, a sgoriodd gais, gyda phont ei ysgwydd wedi torri. Ef oedd y capten pan gurwyd Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf yn 1933.

Yn dilyn y gêm yn erbyn Iwerddon yr un flwyddyn, bu ffrae rhyngddo a'r dewiswyr. Roedd y dewiswyr wedi dewis prop fel blaenasgellwr a blaenasgellwr fel prop ar gyfer y gêm yma. Anwybyddodd Thomas hyn, a chwaraeodd y ddau yn eu safleoedd arferol. O ganlyniad, ni chafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru eto.

Yn 1936 symudodd i Birmingham i ddusgu yn Ysgol y Brenin Edward, a bu farw yno yn 1977.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gareth Hughes (1983) One Hundred Years of Scarlet (Clwb Rygbi Llanelli) ISBN 0-9509159-0-4