Menna Baines
Menna Baines | |
---|---|
Ganwyd |
Gorffennaf 1965 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
golygydd, ysgrifennwr ![]() |
Golygydd a llenor Cymreig yw Menna Baines (ganwyd Gorffennaf 1965), sy'n enedigol o Fangor ond a dreuliodd rhan o'i phlentyndod yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, cyn symud i Ben-y-groes yn Arfon.[1]
Graddiodd ym Mhrifysgol Bangor a dilynodd gwrs MPhil yno hefyd. Bu'n is-olygydd ac yna'n olygydd celfyddydol Golwg rhwng 1988 ac 1991, ac yn olygydd Barn rhwng 1991 a 1996. Gweithiodd ar ei liwt ei hun yn 1996 yn ysgrifennu, golygu a sgriptio.[2]
Daeth yn rhan o dîm golygyddol Gwyddoniadur Cymru ym 1996 gan weithio i'r Academi Gymreig (Llenyddiaeth Cymru, bellach). Mae wedi disgrifio'r Gwyddoniadur fel "trydydd plentyn".[3] Cyhoeddwyd y Gwyddoniadur yn 2008, wedi naw mlynedd o waith. Dywed ar ei gwefan: Dyma’r cyfeirlyfr Cymreig mwyaf cynhwysfawr i’w gyhoeddi er y 19g., ac wrth weithio arno bûm i a’m cyd-olygyddion, sef Nigel Jenkins, John Davies a Peredur Lynch, yn byw ac yn anadlu Cymru am y rhan orau o ddegawd, gan roi trefn ar gryn 800,000 o eiriau, gwaith bron 400 o gyfranwyr.[4]
Ysgrifennodd gyfrol yn dadansoddi gwaith Caradog Prichard, Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard.[3] Cafodd y llyfr ei restru ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Cyhoeddodd hefyd Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i Fyfyrwyr Ail Iaith (1997).
Mae'n wraig i'r Athro Peredur Lynch. Dychwelodd at y cylchgawn Barn am yr ail dro yn 2009 fel cyd-olygydd.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- http://www.amazon.com/Awdur-Cyfoes-Welsh-Menna-Baines/dp/1901358275 (Mawrth 1997) Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i Fyfyrwyr Ail Iaith. Camfa. ISBN 1901358275
- (Tachwedd 1998) Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard. Gwasg Gomer. ISBN 9781859026052
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 12 Awst 2012[dolen marw]
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 05/01/2013.
- ↑ 3.0 3.1 Llais Llên: Gwyddoniadur - holi golygydd. BBC. Adalwyd ar 22 Ionawr 2010.
- ↑ Gwefan Menna Baines Archifwyd 2015-02-16 yn y Peiriant Wayback.; Amdanaf fi; adalwyd 05/01/2013.