Peredur Lynch
Gwedd
| Peredur Lynch | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Ionawr 1963 Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, athro cadeiriol |
| Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, arweinydd milwrol |
Awdur Cymraeg ac athro ym Mhrifysgol Bangor ydy Peredur Lynch (ganwyd 1963). Mae'n frodor o Garrog, Sir Feirionnydd.[1] Yn 1979 cipiodd gadair Eisteddfod yr Urdd ym Maesteg gydag awdl – y bardd ieuengaf i wneud hynny erioed, ag yntau'n ddim ond 16 mlwydd oed. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn dod yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990. Ar ôl hynny, bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.[2] Ym 1995, dychwelodd i Brifysgol Bangor a chafodd ei ddyrchafu'n Athro'r Adran yn 2005. Ef hefyd oedd Pennaeth Adran y Gymraeg rhwng 2003 a 2006.
Mae'n arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Caeth a Rhydd, (Gwasg Carreg Gwalch, 2017), cerddi
- Cywion Nell (Gwasg Taf, 2001), addasiad i'r Gymraeg o Robert Barnard, Mother's Boys
- golygydd (gydag eraill), Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)[3]
- Proffwydoliaeth a'r Syniad o Genedl (Bangor: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor 2007)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Athro Peredur I. Lynch BA PhD[dolen farw]
- ↑ Yr Athro Peredur I. Lynch BA PhD[dolen farw] Gwefan Prifysgol Bangor. Adalwyd ar 16-10-2010
- ↑ "Ynglŷn â'r golygyddion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2008-05-21.