Jenkin Alban Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jenkin Alban Davies
Ganwyd 5 Medi 1885 Edit this on Wikidata
Aberaeron Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata (90 oed)
Los Angeles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Tîm/au Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, London Welsh RFC, Oxford University RFC, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
Safle prop Edit this on Wikidata

Roedd y parchedig Jenkin Alban Davies (5 Medi 1885 - 18 Gorffennaf 1976) yn offeiriad Anglicanaidd a chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Davies yn Aberaeron, Ceredigion a chafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.[1] Bu'n chwarae dros glwb Rygbi Abertawe yn 1912 ac yn rhyngwladol i Gymru ar saith achlysur. Ei gap cyntaf oedd yn Chwefror 1913 yn erbyn yr Alban. Fis yn ddiweddarach, sgoriodd ei gais cyntaf yn erbyn Ffrainc.[2] Roedd yn gapten y tîm yr "wyth ofnadwy" yn 1914. Gwasanaethodd fel Caplan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf efo'r Royal Field Artillery.

Wedi'r rhyfel dychwelodd i'r eglwys a daeth yn ficar Hook, Surrey yn 1924 yn gan olynnu Cymro arall i'r swydd sef William Thomas Havard. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau lle gweithiodd hefyd fel meistr ysgol. Bu farw 18 Gorffennaf 1976 yn Los Angeles. Roedd ei hanes yn rhan o raglen S4C ar y "Pymtheg Olaf" yn Nhachwedd 2014 lle cafwyd sgwrs amdano gan ei nai Huw Alban Davies.

Gemau Rhyngwladol dros Gymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Baker, J. N. L. (1971). Coleg yr Iesu, Rhydychen. London: Oxonian Press Ltd. p. 112. ISBN 0-9502164-0-2. 
  • "Alban Davies". WRU Searchable Player Archive. Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru. http://www.wru.co.uk/12750_14256.php?player=25892&includeref=dynamic. Adalwyd 12 May 2008.