Colin Charvis

Oddi ar Wicipedia
Colin Charvis
Ganwyd27 Rhagfyr 1972 Edit this on Wikidata
Sutton Coldfield Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra191 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau116 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Newcastle Falcons, Clwb Rygbi Abertawe, Y Dreigiau, Tarbes Pyrénées Rugby, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleWythwr Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb yw Colin Lloyd Charvis (ganed 27 Rhagfyr 1972). Er iddo gael ei eni yn Sutton Coldfield, Lloegr, chwaraeodd dros Gymru fel blaenasgellwr neu wythwr.

Chwaraeodd dros Gymry Llundain cyn symud i Glwb Rygbi Abertawe. Pan symudwyd i rygbi rhanbarthol yn 2003, cafodd ei hun heb gontract, ac wedi cyfnod byr yn chwarae i Tarbes yn Ffrainc symudodd i Newcastle Falcons yn Lloegr, lle bu'n gapten y tîm. Ni adnewyddwyd ei gontract gan Newcastle ar ddiwedd tymor 2005-6, a dychwelodd i Gymru i chwarae i dîm rhanbarthol Dreigiau Casnewydd Gwent.

Ef sy'n dal record y byd am y nifer fwyaf o geisiau gan flaenwr mewn gemau rhyngwladol. Sgoriodd ei 22ain cais yn erbyn De Affrica ar 24 Tachwedd 2007.