Arthur Emyr

Oddi ar Wicipedia
Arthur Emyr
Ganwyd27 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, gohebydd chwaraeon Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau92 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol i Gymru yw Arthur Emyr Jones (ganwyd 27 Gorffennaf 1962).[1] Roedd yn asgellwr, a bu'n chwarae i glwb rygbi Abertawe lle mae'n parhau i ddal record am y sgoriwr ceisiau uchaf, a bu hefyd yn chwarae i glwb rygbi Caerdydd. Bu hefyd yn athletwr yn nhim hynaf Athletau Cymru.

Ganwyd Emyr ym Mangor, Gwynedd. Enillodd 13 o gapiau i Gymru gan sgorio 4 cais rhwng 1989-1991. Roedd y Chwaraewr y Flwyddyn Cymru yn 1990. Cafodd ei ddewis ar gyfer sgwad Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 1991.

Ar ôl ymddeol o chwaraeon datblygodd yrfa llwyddiannus yn y cyfryngau, i ddechrau fel cyflwynydd chwaraeon teledu ac yna fel Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru rhwng 1994 a 2001,[2][3] cyn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Pennaeth Digwyddiadau Mawr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Frank Keating (7 Tachwedd 2006). "Alas Smith, you'll never be as ubiquitous as Jones". The Guardian. Cyrchwyd 25 Mehefin 2009.
  2. "The Berlin Wall was still standing when Gareth Llewellyn made his Wales debut". Wales Online. 20 Tachwedd 2004.
  3. "Walker to lead BBC Wales Sport". BBC Sport Online. 13 Gorffennaf 2001.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]