Dewi Bebb
| Dewi Bebb | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Awst 1938 Bangor |
| Bu farw | 14 Mawrth 1996 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, newyddiadurwr |
| Taldra | 176 centimetr |
| Pwysau | 72 cilogram |
| Tad | William Ambrose Bebb |
| Plant | Sion Bebb |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
| Safle | Asgellwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru oedd Dewi Iorwerth Ellis Bebb (7 Awst 1938 – 14 Mawrth 1996), a enillodd tri deg pedwar o gapiau dros Gymru fel asgellwr.
Ganed Dewi Bebb ym Mangor yn fab i'r hanesydd Ambrose Bebb. Addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn ddiweddarach yn Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Abertawe yn erbyn Llanelli yn 1958. Bu gydag Abertawe trwy gydol ei yrfa fel chwaraewr, gan chwarae iddynt 221 o weithiau, sgorio 87 cais a bod yn gapten ar y tîm yn 1963-4 a 1964-5.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr yn 1959, gan fynd ymlaen i ennill tri deg pedwar o gapiau rhwng 1959 a 1967 a sgorio unarddeg cais. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Dde Affrica yn 1962, gan chwarae yn y ddwy gem brawf, ac i Awstralia, Seland Newydd a Chanada yn 1966, unwaith eto'n chwarae ymhob un o'r gemau prawf.
Athro oedd Bebb wrth ei alwedigaeth yn wreiddiol, ond yn nes ymlaen daeth yn ddarlledydd a newyddiadurwr.