Dick Jones (rygbi)

Oddi ar Wicipedia
Dick Jones
Jones yng nghrys Cymru (1905)
Ganwyd27 Tachwedd 1879 Edit this on Wikidata
Bu farw24 Tachwedd 1958 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Abertawe, Clwb Rygbi Sir Forgannwg, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata

Roedd Richard Hughes Jones (27 Tachwedd 1879 - 24 Tachwedd, 1958) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig a oedd yn chwarae rygbi clwb i Glwb Rygbi Abertawe a rygbi rhanbarthol i Sir Forgannwg. Enillodd 15 cap i Gymru.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Creodd Jones, ynghyd â Dicky Owen, partneriaeth maswyr mwyaf dinistriol i chwarae i Abertawe erioed.[1] Disodlodd Jones ac Owen y brodyr James yn Abertawe, a byddent yn dod â'u partneriaeth i dîm Cymru yn ddiweddarach. Roedd y detholwyr Cymreig yn tueddu i ddewis partneriaid clwb i lenwi safleoedd y ddau faswr. Pan anafwyd Lou Phillips o Gasnewydd mewn gêm yn erbyn yr Alban, disodlwyd ef a'i bartner Llewellyn Lloyd yn raddol gan Jones ac Owen. [2] Byddai'r bartneriaeth yn para am 15 gêm, record Gymreig am faswyr a barhaodd hyd i Barry John a Gareth Edwards ei ddisodli ym 1971. [3]

Chwaraeodd Jones i Abertawe am 12 tymor ac roedd yn aelod o'r tîm a gurodd tîm Awstralia ar daith ym 1908.

Gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Iwerddon ym 1901. Er iddo gael ei ollwng am gyfnod rhwng 1902 a 1904, fe ailsefydlodd ei hun gyda chicio a rhedeg rhagorol yn erbyn yr Alban. Yn anffodus i Jones dorrodd pont ei droed mewn gêm glwb ym 1905 ac ni chwaraeodd rygbi eto tan ddiwedd 1907. Roedd ei ddychweliad ym 1908 yn erbyn Ffrainc mewn ornest i gipio'r Gamp Lawn, sgoriodd Jones y cais buddugol i godi'r tlws i Gymru. Sgoriodd Jones ddau gais arall yn ei yrfa ryngwladol, yn erbyn yr Alban ym 1904 a Lloegr ym 1905. Dylai Jones hefyd fod wedi sgorio yn erbyn Iwerddon, a fyddai wedi rhoi cais iddo yn erbyn holl dimau’r twrnamaint, ond ni chaniatawyd cais am dirio'r bêl iddo yn nhymor 1903/04 yn Belffast trwy ddyfarnu gwael. [4]

Ym 1911 gollyngwyd Owen a Jones ar ôl perfformiad Cymreig gwael yn erbyn Lloegr, lle cafodd Jones ei anrheithio trwy gydol y gêm gan flaen asgellwr Lloegr, ‘Cherry’ Pillman. [5] Dim ond o 11 pwynt i 6 y collodd Cymru’r ornest, yn bennaf oherwydd gwall yn y munud cyntaf gan Benjamin “Ben” Gronow o Ben-y-bont ar Ogwr a ganiataodd i Loegr sgorio, ond ni allai Cymru adfer eu gêm. Roedd y ffaith mai hwn oedd y tro cyntaf i dîm o Gymru golli i Loegr ers 1898 yn rhoi rheswm digonol i'r dewiswyr newid personél ar gyfer y gemau nesaf. Er y byddai Owen yn cael ei ddewis eto, dioddefodd Jones anaf difrifol a ddaeth â’i yrfa chwarae i ben. [3]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Hanes personol[golygu | golygu cod]

Jones yw hen daid y digrifwr o Seland Newydd, Dai Henwood.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Smith (1980), tud 133.
  2. Smith (1980), tud 131-132.
  3. 3.0 3.1 Thomas (1979) pg.32.
  4. Parry-Jones (1999) p 113.
  5. Smith (1980), tud 197.