Neidio i'r cynnwys

Barry John

Oddi ar Wicipedia
Barry John
Ganwyd6 Ionawr 1945 Edit this on Wikidata
Cefneithin Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2024 Edit this on Wikidata
Caerdydd, Ysbyty Athrofaol Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau75 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Clwb Rygbi Llanelli, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi o Gymru oedd Barry John (6 Ionawr 19454 Chwefror 2024). Ef oedd y maswr gorau yn hanes Rygbi'r undeb ym marn llawer o feirniaid.[1] Cafodd y llysenw "The King" ar ôl taith y Llewod Prydeinig yn Seland Newydd ym 1971.[2] Daeth ei bartneriaeth gyda Gareth Edwards yn chwedlonol.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Barry yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg y Gwendraeth ac aeth ymlaen i Goleg y Drindod, Caerfyrddin er mwyn hyfforddi fel athro. Astudiodd addysg gorfforol, gwyddoniaeth a garddwriaeth. Yn 1967 cymerod swydd fel athro addysg gorfforol yn Ysgol Monkton yng Nghaerdydd, ysgol breifat ar gyfer bechgyn rhwng 8 ac 16 oed.[3]

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros glwb rygbi Llanelli pan oedd dal yn yr ysgol. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru ym 1967, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gan gymeryd lle David Watkins. Ffurfiodd bartneriaeth gyda'r mwyaf effeithiol yn hanes y gêm gyda'r mewnwr Gareth Edwards yn y tîm cenedlaethol.

Ymhen blwyddyn yr oedd wedi ei ddewis i deithio gyda'r Llewod Prydeinig i Dde Affrica, ond gorfodwyd ef i ddychwelyd adref ar ôl y gém brawf gyntaf oherwydd anaf. Ym 1971 aeth ar daith eto gyda'r Llewod, y tro hwn i Seland Newydd gyda Carwyn James, yntau yn frodor o Gefneithin, fel hyfforddwr. Enillodd y Llewod y gyfres o gemau prawf 2 - 1, gydag un prawf yn diweddu'n gyfartal, yr unig dro yn eu hanes i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd. O'r 48 pwynt a sgoriwyd gan y Llewod dros y pedair gêm, Barry John a sgoriodd 30, a rhoddwyd yr enw "Y Brenin John" iddo gan gyfryngau a chefnogwyr Seland Newydd.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei ymddeoliad yn 27 oed ac ar ôl ennill 25 o gapiau i Gymru. Cipiwyd ei le yn nhîm Cymru gan Phil Bennett.[4] Daeth John yn golofnydd a darlledwr, cyn penderfynu tynnu'n ôl yn llwyr o rygbi.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 1969, priododd Janet Talfan Davies, merch y bargyfreithiwr Alun Talfan Davies QC. Cawsant bedwar o blant ond gwahanodd y ddau yn ddiweddarach.

Bu farw yn 79 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, yng nghwmni ei wraig a'i blant.[5]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Bevan, Alun Wyn (2005). Stradey Stories. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-570-5.
  • Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
  • Billot, John (1974). Springboks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
  • Davies, D. E. (1975). Cardiff Rugby Club, History and Statistics 1876–1975. Risca: The Starling Press. ISBN 0-9504421-0-0.
  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. London: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1990). British Lions. Swindon: Crowood Press. ISBN 1-85223-541-1.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Hughes, Gareth (1986). The Scarlets: A History of Llanelli Rugby Club. Llanelli: Llanelli Borough Council. ISBN 0-906821-05-3.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • John, Barry (1974). The Barry John Story. London: Collins. ISBN 0-00-216011-0.
  • Owen, Arwyn, gol. (1972). Welsh Brewers Rugby Annual for Wales 1971–72. Cardiff: Welsh Brewers.
  • Parker, A. C. (1970). The Springboks, 1891–1970. London: Cassell & Company. ISBN 0-304-93591-3.
  • Richards, Alun (1980). A Touch of Glory: 100 Years of Welsh Rugby. London: Michael Joseph. ISBN 0-7181-1938-X.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Starmer-Smith, Nigel (1977). The Barbarians. Macdonald & Jane's Publishers. ISBN 0-86007-552-4.
  • Thomas, Clem; Nicholson, Geoffrey (1980). Welsh Rugby, The Crowning Years 1968–1980. London: Collins. ISBN 0-00-211641-3.
  • Thomas, J. B. G. (1980). The Illustrated History of Welsh Rugby. London: Pelham Books. ISBN 0-7207-1268-8.
  • Thomas, J. B. G. (1970). Rugby in Wales. Swansea: Christopher Davies (publishers).
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Barry John, un o sêr rygbi mwyaf Cymru, wedi marw yn 79 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-02-04. Cyrchwyd 5 Chwefror 2024.
  2. Griffiths, John (1990). British Lions (yn Saesneg). Swindon: Crowood Press. ISBN 1-85223-541-1.
  3. John (1974) t. 78
  4. "On This Day: Phil Bennett's First Start at No10" (yn Saesneg). Welsh Rugby Union. 4 Ebrill 2020. Cyrchwyd 15 Mehefin 2022.
  5. "Barry John, un o sêr rygbi mwyaf Cymru, wedi marw yn 79 oed". BBC Cymru Fyw. 5 Chwefror 2024. Cyrchwyd 4 Chwefror 2024.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.