Phil Bennett
| Phil Bennett | |
|---|---|
| Ganwyd | Phil Bennett 24 Hydref 1948 Felin-foel |
| Bu farw | 12 Mehefin 2022 Felin-foel |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
| Taldra | 170 centimetr |
| Pwysau | 72 cilogram |
| Gwobr/au | OBE |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
| Safle | maswr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd Phil Bennett (24 Hydref 1948 – 12 Mehefin 2022).[1] Enillodd 29 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1978, fel maswr yn bennaf.
Roedd yn Gymro i'w fêr, fel y nodir yn The Guardian. Cyn gêm rygbi yn erbyn Lloegr yn 1977 ysbrydolodd ei gyd-chwaraewr gyda'r araith:
- "Edrychwch beth mae'r bastads (Saeson) hyn wedi'i wneud i Gymru. Maen nhw wedi cymryd ein glo, ein dŵr, ein dur. Maen nhw'n prynu ein cartrefi ac yn byw ynddyn nhw am bythefnos bob blwyddyn. Beth maen nhw wedi'i roi i ni? Dim byd o gwbl. Rydym wedi cael ein hecsbloetio, ein treisio, ein rheoli a'n cosbi gan y Saeson - a dyna pwy rydych chi'n ei chwarae y prynhawn yma."[2]
Ganed Bennett yn Felin-foel, Sir Gaerfyrddin a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Lanelli yn 1966.[3][4] Gweithiai ei dad, Les, yn y gwaith dur lleol yn Llanelli nes iddo gael damwain ddiwydiannol, a gweithiai ei fam, Mary, mewn ffatri wasgu ceir leol. Roedd Bennett yn aml yn sâl pan oedd yn blentyn a dywedwyd wrth ei dad na fyddai gan ei fab "fyth y corff i chwarae rygbi".
Rygbi
[golygu | golygu cod]Bu'n gapten ar dîm Llanelli am chwech thymor yn olynol rhwng 1973 a 1979. Chwaraeodd 16 tymor i Lanelli gan sgorio mwy na 2,500 o bwyntiau mewn dros 400 gêm. Treuliodd 16 mlynedd ym Mharc y Strade gan chwarae 413 o weithiau i'r Scarlets cyn dod yn llywydd anrhydeddus i'r rhanbarth wedi iddo ymddeol.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ar 22 Mawrth 1969 yn erbyn Ffrainc gan ddod ar y maes i gymeryd lle Gerald Davies. Chwaraeodd mewn nifer o safleoedd ar y mas, gan cynnwys cefnwr cyn ennill ei le fel maswr Cymru. Fel olynydd Barry John yn y safle yma, roedd ganddo dasg anodd, ond datblygodd i fod yn un o'r maswyr gorau yn hanes y gêm. Roedd yn gapten Cymru pan enillwyd y Goron Driphlyg ddwywaith a'r Gamp Lawn unwaith. Yn ei 29 gêm dros Gymru sgoriodd 166 o bwyntiau.
Aeth ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1974, a sgoriodd 103 o bwyntiau yn ystod y daith. Yn ddiweddarach, ef oedd capten y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 1977.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd hunangofiant dan y teitl Everywhere for Wales, ac wedi ymddeol bu'n sylwebydd rygbi ar gyfer BBC Cymru. Bu hefyd yn lywydd clwb rhanbarthol y Scarlets.
Yn Nhachwedd 2005, fe gafodd ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol, ac yn 2007 fe gafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.[5]
Yn Ebrill 2022, dadorchuddiwyd cerflun o Bennett yn Felin-foel - ar Ffordd Millfield (ochr draw i Eglwys y Drindod). Daeth y syniad o greu'r cerflun gan ysgrifennydd clwb rygbi Felinfoel, Clive Richards. Cododd y gymuned £7,500 tuag at greu a gosod y cerflun yn ei le.[6]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Cafwyd teyrngedau i farwolaeth Phil Bennett gan bobl o bob cefndir. Yn eu mysg oedd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, Dafydd Iwan a'i alwodd yn "athrylith diymhongar", a chyn-chwaraewr Lloegr, Brian Moore a'i alwodd yn "true legend of rugby and a humble and generous man".[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyn-gapten rygbi Cymru, Phil Bennett, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 12 Mehefin 2022.
- ↑ Kitson, Robert (14 Mehefin 2021). "Rugby's dazzling wizard Phil Bennett converted plenty to the oval ball". The Guardian.
- ↑ "Obituary: Legendary Wales and British and Irish Lions fly-half Phil Bennett". BBC. 12 Mehefin 2022. Cyrchwyd 14 Mehefin 2022.
- ↑ "Rugby union pays tribute to Phil Bennett, who has died aged 73". The Guardian. 12 Mehefin 2022. Cyrchwyd 14 Mehefin 2022.
- 1 2 "Y Cymry a'r byd yn talu teyrnged i Phil Bennett". Newyddion S4C. 13 Mehefin 2022.
- ↑ Phil Bennett: Dadorchuddio cerflun i un o sêr rygbi mwyaf Cymru , BBC Cymru Fyw, 15 Ebrill 2022. Cyrchwyd ar 13 Mehefin 2022.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Hughes, Gareth (1983). One Hundred Years Of Scarlet. Llanelli: Clwb Rygbi Llanelli. ISBN 978-0950915906.
| Gwobrau | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Mervyn Davies |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1977 |
Olynydd: Johnny Owen |