Johnny Owen
Gwedd
| Johnny Owen | |
|---|---|
![]() Delw o Johnny Owen, Merthyr Tudful. | |
| Ganwyd | 7 Ionawr 1956 Merthyr Tudful |
| Bu farw | 4 Tachwedd 1980 Los Angeles |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | paffiwr |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Paffiwr proffesiynol pwysau bantam o Gymru oedd John Richard Owen (7 Ionawr 1956 – 4 Tachwedd 1980) a ymladdai dan yr enw Johnny Owen. Roedd o gorff eiddil yr olwg, gyda "choesau matsis", ond daliodd deitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Prydain Fawr a'r teitl Ewropeaidd.
Wrth ymladd am deitl Pwysau Bantam y byd yn erbyn Lupe Pintor ar 19 Medi 1980 cafodd ei fwrw i'r llawr yn annymwybodol, ac ni fu'n ymwybodol ar ôl hynny; bu farw saith wythnos yn ddiweddarach. Daeth 10,000 o bobl i'w angladd ym Merthyr Tudful.
Dadorchuddiwyd cerflun ohono ym Merthyr Tudful yn 2002.
