Maswr (rygbi)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Maswr)
Jump to navigation Jump to search
Safleoedd Rygbi'r Undeb

Blaenwyr

Cefnwyr

Mae'r Maswr (rhif 10) yn un o'r safleoedd mwyaf dylanwadol ar y cae yn rygbi'r undeb. Gwna'r maswr benderfyniadau tactegol allweddol yn ystod y gêm - p'un ai i gicio i ennill tir neu er mwyn mantais dactegol, ai rhoi'r bêl i'r cefnwyr, ai ei dychwelyd i'r blaenwyr i wthio ymlaen, neu redeg gyda'r bêl ei hunan. Dylai fod yn rhedwr cyflym a thwyllodrus, gyda'r gallu i wneud penderfyniadau cyflym, gan gyfarwyddo'r llinell gefn wrth amddiffyn ac ymosod. Mae'n rhaid iddo fod a sgiliau trafod a chicio da gyda'r gallu i ymdopi â phwysau. Mae sgiliau arwain da yn hanfodol ynghyd a sgiliau amddiffyn cryf.

Rugby Union Stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.