Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd Tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru

Cymru
UndebUndeb Rygbi Cymru
Maes/yddStadiwm y Mileniwm, Caerdydd
HyfforddwrWarren Gatland
CaptenKen Owens
Mwyaf o gapiauAlun Wyn Jones (134)
Sgôr mwyafNeil Jenkins (1,049)
Mwyaf o geisiadauShane Williams (58)
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Y gêm ryngwladol cyntaf
 Lloegr 8 – 0  Cymru
(19 Chwefror 1881)
Sgôr uchaf
 Cymru 98 – 0  Japan
(26 Tachwedd 2004)
Cweir mwyaf
 De Affrica 96 – 13  Cymru
(27 Mehefin 1998)
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau7/7
Canlyniad gorau3ydd, Cwpan y Byd 1987
Cymru yn erbyn yr Eidal, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidal 8.

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd ail gyfnod llwyddiannus yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. Ystyria llawer mai tîm 1971, oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J. P. R. Williams, oedd y tîm gorau i gynrychioli Cymru erioed. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto yn 1976 a 1978.

Fodd bynnag, y 1980au a'r 1990au cafwyd canlyniadau gwael. Byr oedd y cyfnod llwm, fodd bynnag ac erbyn dechrau'r ganrif newydd roedd arwyddion calonogol, a chyflawnwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dilynwyd hyn gan berfformiadau siomedig yn y bencampwriaeth yn 2006 a 2007, ond yn 2008 cyflawnwyd y Gamp Lawn eto. Yn gyffredinol, gellir cloriannu perfformiad y tîm cenedlaethol fel dau begwn eithaf: trai a llanw.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd chwarae rygbi'r undeb yng Nghymru ym 1850, pan ddaeth y Parchedig Rowland Williams yn Is-brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a chyflwyno'r gêm i'r myfyrwyr yno. Ffurfiwyd y clwb Cymreig cyntaf, Castell Nedd, ym 1871.[1] Ffurfiwyd tîm Cymreig ym 1880, a chwaraeodd nifer o gemau yn erbyn clybiau a siroedd Seisnig, yn enwedig Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf. Yn erbyn Lloegr yn Blackheath ger Llundain y chwaraeodd y tîm cenedlaethol eu gêm ryngwladol, anffurfiol gyntaf – a hynny ym 1881, gan golli o saith gôl, gôl adlam a chwe chais i ddim. Ar 12 Mawrth 1881, ffurfiwyd Undeb Rygbi Cymru yn y Castle Hotel, Castell Nedd.[2] Ar 28 Ionawr 1882, cafodd Cymru eu buddugoliaeth gyntaf mewn gêm ryngwladol pan drechwyd Iwerddon yn Nulyn 8 – 0 (4 cais a dau drosiad).

Y blynyddoedd cynnar (1883–1919)[golygu | golygu cod]

Tîm Cymru a gurodd y Crysau Duon yn 1905.

Y flwyddyn wedyn, ffurfiwyd y bencampwriaeth a ddatblygodd i fod yn Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, er mai dim ond pedair, Cymru, Iwerddon, Lloegr a'r Alban, oedd yn cymryd rhan yn y blynyddoedd cynnar. Ni lwyddodd Cymru i ennill gêm yn y tymor cyntaf.

Datblygodd rygbi'n gyflym yng Nghymru, ac erbyn y 1890au roedd wedi arloesi dull newydd o chwarae, gyda saith cefnwr ac wyth blaenwr, yn hytrach na chwe cefnwr a naw blaenwr fel o'r blaen. Cyn hir, roedd y timau eraill wedi mabwysiadu'r system hon. Enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf ym 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd.[3] Enillodd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, a oedd i barhau hyd at 1911. Enillasant y Goron Driphlyg eto yn 1902 a 1905, a gorffen yn ail yn y bencampwriaeth yn 1901, 1903 a 1904.

Llinell yn ystod buddugoliaeth Cymru dros y Crysau Duon yn 1905.

Ym 1905, chwaraeodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Seland Newydd a hynny yng Nghaerdydd. Cyn y gêm perfformiwyd yr haka am y tro cyntaf a chanwyd Hen Wlad fy Nhadau gan dorf o 47,000. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw anthem genedlaethol gael ei chanu o flaen unrhyw gêm chwaraeon.[4]

Dychwelodd Gwyn Nicholls o'i ymddeoliad i fod yn gapten y tîm. Roedd y Crysau Duon eisoes wedi curo Lloegr, Iwerddon a'r Alban. O flaen torf o 47,000, sgoriodd asgellwr Cymru, Teddy Morgan, gais i roi Cymru 3 – 0 ar y blaen. Yn ddiweddarach yn y gêm, credai Bob Deans ei fod wedi sgorio cais i Seland Newydd, ond iddo gael ei lusgo'n ôl o'r linell cyn i'r dyfarnwr gyrraedd. Arhosodd y sgôr yn 3 – 0, yr unig gêm i'r Crysau Duon ei cholli o'r 35 yn ystod eu taith.

Enillodd Cymru'r bencampwriaeth eto ym 1906, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, chwaraeon nhw eu gêm gyntaf yn erbyn De Affrica, gan golli 11 – 0.[5] Chwaraewyd y gêm gyntaf yn erbyn Awstralia ar 12 Rhagfyr 1908, gyda Chymru'n ennill 9 – 6. Bu digwyddiad od yn y gêm yn erbyn Lloegr ym Mryste y flwyddyn honno, pan chwaraewyd y gêm mewn niwl tew, a chafodd Rhys Gabe a Percy Bush hyd i'r bêl y tu allan i linell 25 Lloegr heb i unrhyw un o chwaraewyr Lloegr sylweddoli hynny. Gafaelodd Gabe yn y bêl ac aeth i gyfeiriad y linell tra rhedai Bush i'r cyfeiriad arall i ddrysu chwaraewyr Lloegr ymhellach. Ymhen tipyn cyrhaeddodd y dyfarnwr a'r chwaraewyr eraill at y linell i ddarganfod Gabe yn eu haros gyda'r bêl.

Enillodd Cymru'r bencampwriaeth eto ym 1909. Y flwyddyn ganlynol ffurfiwyd pencampwriaeth y Pum Gwlad pan ymunodd Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc a'r gystadleuaeth. Ym 1911, Cymru oedd y tîm cyntaf i ennill y Gamp Lawn trwy guro pob un o'r timau eraill yn y bencampwriaeth. Byddai bron yn ddeugain mlynedd cyn iddynt gyflawni'r gamp hon eto. Pan ddecheuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, daeth y gemau i ben tra parhai'r rhyfel.

Wedi'r rhyfel (1920–1968)[golygu | golygu cod]

Cymru yn erbyn Iwerddon; llun o'r 1920au.

Ni chafodd Cymru fawr o lwyddiant yn ystod y 1920au. Rhain oedd blynyddoedd y dirwasgiad mawr, gyda miloedd o bobl yn gorfod gadael ardaloedd diwydiannol Cymru i chwilio am waith. Yn eu mysg roedd nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol, a drôdd at rygbi'r gynghrair a symud i ogledd Lloegr. Rhwng 1923 a 1928, dim ond saith gêm a enillodd Cymru, pump o'r rhain yn erbyn Ffrainc a enillodd eu buddugoliaeth gyntaf dros Gymru ym 1928.

Daeth tro ar fyd, a gwellodd pethau yn y 1930au, ac ym 1931 pan enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers naw mlynedd. Ym 1933, gyda Watcyn Thomas yn gapten, gorchfygodd Cymru dîm Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf. Ym 1935, cafodd Cymru fuddugoliaedd dros Seland Newydd, 13 – 12, gyda Haydn Tanner yn ennill ei gap cyntaf.

Dechrau ymosodiad: llun o gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham yn 1931.

Ni fu rygbi rhyngwladol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, heblaw am gêm answyddogol rhwng Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd ym 1940, a enillwyd gan Loegr, 18 – 9. Ym 1946, chwaraeodd Cymru yn erbyn tîm y "Kiwis" sef aelodau o fyddin Seland Newydd, gan golli 11 – 3. Ail-ddechreuodd Pencampwriaeth y Pum Gwlad ym 1947, gyda Chymru'n rhannu'r bencampwriaeth gyda Lloegr. Collasant gartref i Ffrainc am y tro cyntaf ym 1948.

Bu'r 1950au'n ddegawd lwyddiannus iawn i Gymru; enillasant 29 o'u 49 gêm yn ystod y cyfnod hwn, gyda dwy'n gyfartal. Ystyrir hanner cyntaf y ddegawd yn ail "oes aur", gyda John Gwilliam yn gapten a chwaraewyr fel Bleddyn Williams a Cliff Morgan yn disgleirio. Ym 1950 cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1911. Y flwyddyn wedyn, collwyd gêm yn erbyn De Affrica 6 – 3. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto ym 1952, ac yna curwyd Seland Newydd 13 – 8 yn 1953. Ym 1954, chwaraewyd y gêm olaf yn San Helen, Abertawe, a daeth Parc yr Arfau, Caerdydd yn gartref swyddogol i'r tîm. Enillodd Cymru'r bencampwriaeth eto ym 1956.

Dilynwyd hyn gan nifer o dymhorau heb lawer o lwyddiant, ond rhannwyd y bencampwriaeth ym 1964. Y flwyddyn honno aeth Cymru ar daith am y tro cyntaf, i Dde Affrica, lle chwaraewyd nifer o gemau ac un gêm brawf. Collwyd y gêm brawf 24 – 3, y gurfa waethaf ers 40 mlynedd. Enillodd Cymru'r bencampwriaeth ym 1965 a 1966.

Apwyntiwyd hyfforddwr am y tro cyntaf ym 1967, David Nash, ond ymddiswyddodd pan wrthododd yr Undeb adael iddo fynd gyda'r tîm ar daith i'r Ariannin. Niweidiodd yr Undeb ei feddwl yn ddiweddarach, ac apwyntiwyd Clive Rowlands i deithio gyda'r tîm fel hyfforddwr. Nid oedd y tymor yn un llwyddiannus yn y bencampwriaeth; dim ond un gêm a enillwyd, a gorffennodd Cymru ar waelod y tabl. Y flwyddyn honno, chwaraeodd Gareth Edwards a Barry John eu gemau cyntaf i'r tîm cenedlaethol.

Y drydedd "oes aur" (1969–1979)[golygu | golygu cod]

Enillodd Cymru bencampwriaeth 1969 a'r Goron Driphlyg, gan ddechrau'r hyn a ystyrir yn drydedd "oes aur" i rygbi Cymru. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, bu Cymru ar daith yn Seland Newydd, ond collwyd y ddwy gêm brawf.

Ym 1970, rhannodd Cymru'r bencampwriaeth gyda Ffrainc, a chwarae gêm gyfartal 6 – 6 yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd. Ym mhencampwriaeth 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952, gan ddefnyddio dim ond 16 chwaraewr yn y bedair gêm. Eu buddugoliaeth fwyaf nodedig oedd yn erbyn yr Alban. Roedd yr Alban ar y blaen yn hwyr yn y gêm pan sgoriodd Gerald Davies gais yn y gornel, a droswyd o'r linell ochr gan John Taylor. Ystyrir tîm 1971 fel un o'r timau gorau yn hanes Cymru, gyda chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J. P. R. Williams.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, dewiswyd mwy o chwaraewyr Cymru nag o unrhyw dîm arall ar gyfer tîm y Llewod i fynd ar daith i Seland Newydd. Carwyn James oedd yr hyfforddwr, a Chymro arall, John Dawes yn gapten. Enillwyd y gyfres yn erbyn y Crysau Duon; y tro cyntaf i'r Llewod fod yn llwyddiannus yn Seland Newydd, a'r unig dro hyd yn hyn.

Ym 1972, roedd yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon ar eu hanterth, a gwrthododd Cymru a'r Alban deithio i Ddulyn ar ôl iddynt dderbyn bygythiadau. Oherwydd hynny, ni enillodd neb y bencampwriaeth y flwyddyn honno, er i Gymru ennill y tair gêm a chwaraewyd ganddynt. Cyhoeddodd Barry John ei ymddeoliad, yn ddim ond 27 oed, y flwyddyn honno, ond roedd Cymru'n ffodus fod Phil Bennett ar gael i gymeryd ei le fel maswr. Ym 1973, rhannwyd y bencampwriaeth rhwng pob un o'r pum gwlad; yr un flwyddyn gorchfygodd Cymru dîm Awstralia 24 – 0 yng Nghaerdydd. Ym 1974 dilynwyd Clive Rowlands gan John Dawes fel hyfforddwr.

Enillodd Cymru'r bencampwriaeth eto ym 1975, ac ym mhencampwriaeth 1976 cyflawnwyd y Gamp Lawn eto. Fel ym 1971, dim ond 16 charaewr a ddefnyddiwyd. Diweddwyd gyrfa un o chwaraewyr pwysicaf y tîm, Mervyn Davies, gan waedlif y tu mewn i'w graniwm, anaf a ddioddefodd pan oedd yn gapten Abertawe yn erbyn Pontypŵl mewn gêm ym 1976.

Enillwyd y Goron Driphlyg yn 1977, yna'r Gamp Lawn eto yn 1978. Yn dilyn gêm olaf y bencampwriaeth, ymddeolodd Gareth Edwards a Phil Bennett. Yn ddiweddarach yn y tymor, collodd Cymru 13 – 12 i'r Crysau Duon yng Nghaerdydd. Roedd hon yn gêm ddadleuol iawn; gan i un o chwaraewyr Seland Newydd, Andy Haden, gyfaddef yn ddiweddarach ei fod wedi disgyn allan o'r llinell yn fwriadol i ennill y gic gosb a roddodd fuddugoliaeth i'r Crysau Duon.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg yn 1979. Hon oedd pencampwriaeth olaf “y drydedd oes aur” a'r tro diwethaf i Gymru ennill y bencampwriaeth ar eu pennau eu hunain hyd 1994. Yn yr un mlynedd ar ddeg rhwng 1969 a 1979, roedd Cymru wedi ennill y bencampwriaeth chwe gwaith a'i rhannu ddwywaith.

Cyfnod y trai (1980–1999)[golygu | golygu cod]

Yn 1980, dathlwyd canmlwyddiant Undeb Rygbi Cymru gyda gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd, ond collwyd o 23 – 3. Dim ond un gêm allan o bedair a enillwyd ym mhencampwriaeth 1982. Enillodd Cymru ddwy gêm allan o bedair ym mhencampwriaethau 1983 a 1984, ac yn 1983 cafwyd gêm annisgwyl o glos yn erbyn Japan yng Nghaerdydd, gyda Cymru'n ennill 29 – 24, yna collwyd i Awstralia 28 – 9. Dwy gêm allan o bedair a enillwyd ym mhencampwriaethau 1985 a 1986, a dim ond un yn 1987.

Yn 1987, cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd am y tro cyntaf, yn Seland Newydd. Daeth Cymru trwy'r grŵp heb ormod o drafferth, a churwyd Lloegr yn y rownd nesaf, ond yn y rownd gyn-derfynol fe'u curwyd 49 – 6 gan y Crysau Duon, a aeth ymlaen i ennill y gwpan. Llwyddodd Cymru i guro Awstralia i orffen yn drydydd, eu canlyniad gorau yng Nghwpan y Byd hyd yma. Rhannwyd y bencampwriaeth yn 1988 a Ffrainc, gan ennill tair o'r pedair gêm a chipio'r Goron Driphlyg; collwyd y cyfle am y Gamp Lawn pan gollodd Cymru 9 – 10 i Ffrainc yng Nghaerdydd yn y gêm olaf. Collodd Cymru'n drwm ar daith i Seland Newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a symudodd nifer o chwaraewyr allweddol i rygbi'r gynghrair. Gorffennodd Cymru ar waelod y tabl yn 1989, gan ennill dim ond un gêm.

Agorwyd Stadiwm y Mileniwm yn 1999 gyda gêm yn erbyn De Affrica.

Ym mhencampwriaeth 1990, collodd Cymru bob un o'u gemau am y tro cyntaf ers 1892 a dim ond y trydydd tro yn eu hanes. Bu bron i'r un peth ddigwydd y flwyddyn wedyn, gyda dim ond un pwynt am gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd. Yng Nghwpan y Byd 1991, collodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Gorllewin Samoa, ac er iddynt guro'r Ariannin, collasant i Awstralia a mynd allan o'r gystadleuaeth ar ddiwedd y gemau grŵp. Ni chafwyd llawer o lwyddiant yn y bencampwriaeth yn 1992 a 1993, ond enillodd Cymru'r gystadleuaeth yn 1994 gyda Ieuan Evans yn gapten. Roedd y tîm yn dibynnu'n drwm ar Ieuan Evans ac ar gicio Neil Jenkins yn y cyfnod yma. Aeth Jenkins ymlaen i osod record y byd am y nifer fwyaf o bwyntiau mewn gemau rhyngwladol, record a barhaodd hyd 2008. Collwyd pob gêm ym mhencampwriaeth 1995, ac yng Nghwpan y Byd 1995, aeth Cymru allan ar ddiwedd y gemau grŵp unwaith eto. Penodwyd Kevin Bowring fel hyfforddwr proffesiynol cyntaf Cymru y flwyddyn honno. Ar 26 Awst 1995, symudwyd pob gwaharddiad ar daliadau i chwaraewyr, a daeth rygbi'r undeb ar y lefel uchaf yn gêm broffesiynol. Bu Cymru'n arafach na rhai o'u cystadleuwyr i addasu i'r drefn newydd, a dim ond un gêm a enillwyd ym mhencampwriaethau 1996 a 1997.

Yn 1998, apwyntiwyd Graham Henry o Seland Newydd fel hyfforddwr, a gwelwyd gwelliant yn y canlyniadau. Enillodd Cymru ddeg gêm yn olynol, yn cynnwys buddugoliaeth 29 – 19 yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd ar y bryd, mewn gêm i ddathlu agoriad Stadiwm y Mileniwm. Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru yn erbyn De Affrica. Ym mhencampwriaeth 1999, enillwyd dwy gêm, yn cynnwys buddugoliaeth annisgwyl o 32 – 31 yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Lloegr, oedd yn mynd am y Gamp Lawn.

Cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd 1999 yng Nghymru, a llwyddodd y tîm cenedlaethol i ddod trwy'r gemau grŵp y tro hwn, cyn colli 24 – 9 i Awstralia, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

2000–2010[golygu | golygu cod]

Enillodd Cymru dair gêm allan o bump ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2000, a dwy gêm gydag un yn gyfartal ym mhencampwriaeth 2001.

Ymddiswyddodd Graham Henry wedi i Gymru golli 54 – 10 i Iwerddon ym mhencampwriaeth 2002, a daeth ei ddirprwy Steve Hansen yn hyfforddwr yn ei le. Wedi tymor gwael yn y bencampwriaeth yn 2003, pan gollwyd pob un o'r gemau, nid oedd disgwyliadau'n uchel ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003. Er hynny, perfformiodd Cymru yn well na'r disgwyl. Er i Gymru golli i Seland Newydd yn eu grŵp, ystyrid y gêm yn un o oreuon y gystadleuaeth. Cyrhaeddodd Cymru y rownd nesaf, lle collasant mewn gêm gyffrous arall i Loegr, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Ym mhencampwriaeth 2004, curwyd yr Alban a'r Eidal, ond collwyd y tair gêm arall, a gorffennodd Cymru yn bedwerydd yn y tabl. Ni adnewyddodd Steve Hansen ei gontract fel hyfforddwr, a dewiswyd Mike Ruddock i'w olynu.

Agorwyd tymor 2005 trwy ennill gêm agos rhyngddynt a Lloegr gyda sgor o 11 – 9. Cafwyd gêm gyffyrddus yn erbyn yr Eidal. Roedd y drydedd gêm yn erbyn Ffrainc yn agos 24 – 18. Dangosodd y chwaraewyr eu cymeriad yn y gêm hon drwy ddod yn ôl yn yr ail hanner ac ennill o fod ar ei hêl hi ar hanner amser o 15-6. Cafwyd gêm hawdd yn erbyn yr Alban 46 – 22. Roedd y gêm olaf yn erbyn Iwerddon yn un galed ond enillodd Cymru o 32 i 20 yn Stadiwm y Mileniwm gan ennill ei cystadleuaeth gyntaf ers 1994 a'r Gamp Lawn gyntaf ers 1978. Yn ystod y tymor hwn roedd Cymru'n chwarae rygbi adloniadol drwy chwarae gêm agored wrth chwarae'r bêl yn gelfydd, sef y ffordd draddodiadol o chwarae i Gymru yn hytrach na dibynnu ar bwysau a bôn braich.

Cymru yn erbyn Ffrainc, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2007

Dioddefodd amryw o chwaraewyr allweddol Cymru, Ryan Jones, Gavin Henson a Tom Shanklin, anafiadau tymor-hir yn ystod taith y Llewod i Seland Newydd ar ddiwedd 2005. Ar 14 Chwefror 2006, hanner ffordd trwy'r bencampwriaeth, ymddiswyddodd yr hyfforddwr, Mike Ruddock, yn annisgwyl, gan nodi rhesymau teulol. Daeth Scott Johnson yn hyfforddwr dros dro, ond tymor siomedig ydoedd, gyda Cymru'n gorffen yn bumed o'r chwe gwlad. Apwyntiwyd Gareth Jenkins yn hyfforddwr ar 27 Ebrill. Ym Mehefin 2006, aeth Cymru ar daith i chwarae dwy gêm brawf yn erbyn yr Ariannin, y gyntaf ohonynt yn Mhorth Madryn ym Mhatagonia i nodi'r cysylltiad Cymreig. Yr Ariannin a enillodd y ddwy gêm.

Bu'r tymor nesaf hefyd yn un siomedig, gyda Chymru'n colli pob un o'u pedair gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2007. Dim ond buddugoliaeth yn y gêm olaf yn erbyn Lloegr a'u harbedodd rhag gorffen ar waelod y tabl. Bu perfformiad Cymru yng Nghwpan y Byd 2007 yn Ffrainc hefyd yn siomedig, er i rai o'r gemau gael eu cynnal yng Nghaerdydd. Collodd Cymry yng Nghaerdydd i Awstralia, yma collasant eto i Ffiji, canlyniad oedd yn golygu eu bod yn mynd allan o'r gystadleuaeth ar ddiwedd eu gemau grŵp. Diswyddwyd Gareth Jenkins hyd yn oed cyn i'r tîm ddychwelyd i Gymru.

Ar 9 Tachwedd, 2007, apwyntiwyd Warren Gatland o Seland Newydd fel hyfforddwr. Dechreuodd ar ei waith ar 1 Rhagfyr, gyda Shaun Edwards o Loegr a Rob Howley o Gymru fel cynorthwywyr iddo. Ei gêm gyntaf fel hyfforddwr oedd gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008, yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar 2 Chwefror. Roedd Lloegr wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd ychydig ynghynt, ac erbyn yr egwyl roeddynt 13 pwynt ar y blaen. Fodd bynnag, roedd perfformiad Cymru yn well o lawer yn yr ail hanner, ac enillwyd y gêm 26 – 19; buddugoliaeth gyntaf Cymru yn Twickenham ers 1988. Dilynwyd y gêm yma gan ddwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm. Curwyd yr Alban 30 – 15, a'r Eidal 47 – 8, gyda Shane Williams yn sgorio dau gais ymhob un o'r ddwy gêm. Roedd y gêm nesaf yn Croke Park, Dulyn yn erbyn Iwerddon; disgwyliai llawer i Gymru golli, ond enillwyd 12 – 16, i ennill y Goron Driphlyg. Erbyn hyn, Ffrainc oedd yr unig dîm arall a siawns o ennill y bencampwriaeth, ond i wneud hynny, byddai raid iddynt guro Cymru yn y gêm olaf yng Nghaerdydd o 19 pwynt neu fwy. Roedd y gêm yn gyfartal 9 – 9 ychydig ar ôl yr egwyl, ond sgoriodd Shane Williams ei 41fed cais, gan osod record newydd, yna sgoriodd Martyn Williams gais arall ychydig cyn y diwedd i selio buddugoliaeth 29 – 12. Roedd hyn yn golygu fod Cymru nid yn unig yn ennill y bencampwriaeth ond y Gamp Lawn hefyd.

Dilynwyd hyn gan daith i Dde Affrica i chwarae dwy gêm brawf yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd. Roedd amryw o chwaraewyr yn absennol oherwydd anafiadau, a chollwyd y ddwy. Yn hydref 2008, chwaraeodd Cymru bedair gêm, gan golli i Dde Affrica a Seland Newydd ond ennill yn erbyn Canada ac Awstralia.

2010–2019[golygu | golygu cod]

Trechwyd Ffiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2011, yn ogystal â Namibia a Samoa, gan golli o drwch blewyn yn unig yn erbyn De Affrica. Drwy guro Iwerddon 22-10, cyrhaeddodd tîm Cymru y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers 1987, gan golli yn erbyn Ffrainc 9 – 8.[6]

Ar 17 Mawrth 2012, llwyddodd Cymru i ennill eu trydydd Camp Lawn mewn 8 mlynedd, gan guro 16 – 9 yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm.[7] Gwelwyd y llwyddiant hwn gan rai fel Cymru'n dial ar Ffrainc am yr hyn a ddigwyddodd yng Nghwpan y Byd y flwyddyn cynt.[8]

Ond wedi 2012 collodd Cymru 8 gwaith yn olynol (4 yn erbyn Awstralia), gyda phump o'r gemau hynny ar eu tir eu hunain, record. Yn rownd 3 Cystadleuaeth y Chwe Gwlad curodd Cymru 16-6 yn erbyn Ffrainc, ym Mharis. Ac erbyn y gêm yn erbyn yr Alban ar 9 Mawrth 2013 roedd Cymru wedi curo 5 gwaith yn olynol ar dir eu gwrthwynebwyr. Daliodd Cymru eu gafael ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad pan gurwyd Lloegr yng ngêm ola'r tymor 30 – 3.[9] Dyma'r tro cyntaf i Gymru ddal eu gafael ar y teitl am ddwy flynedd yn olynol, ers 1978/1979.

2019 ymlaen[golygu | golygu cod]

Mewn cyhoeddiad ar 9 Gorffennaf 2019 penodwyd Wayne Pivac yn brif hyfforddwr nesaf tîm Cymru. Bydd yn parhau yn ei swydd fel rheolwr y Scarlets am flwyddyn, cyn cael ei gyflogi gan Undeb Rygbi Cymru yng Ngorffennaf 2019. Bydd Warren Gatland yn parhau i arwain y tîm i ddiwedd Cwpan Rygbi'r Byd 2019 a fydd yn cymryd lle yn Medi/Hydref/Tachwedd 2019.[10] Yn gemau olaf Gatland wrth y llyw, llwyddodd Cymru cyrraedd rown gynderfynol Cwpan y Byd, gan golli i Dde Affrica.

Ni ddechreuodd oes Pivac fel hyfforddwr y tîm yn lwyddiannus iawn, gydag ond tri buddugoliaeth trwy gydol 2020.[11] Yn 2021, fe wnaeth Cymru dod yn bencampwyr pencampwriaeth y Chwe gwlad unwaith eto, ond gollwyd y Gamp Lawn yn eiliadau olaf y gem olaf ym Mharis yn erbyn Ffrainc.[12]

Chwaraewyr[golygu | golygu cod]

Carfan ddiweddaraf[golygu | golygu cod]

Dyma'r garfan bu'n chware ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021

Chwaraewr Safle Dyddiad Geni (oedran) Capiau Clwb/rhanbarth
Dee, ElliotElliot Dee Bachwr (1994-03-07) 7 Mawrth 1994 (30 oed) 37 Cymru Dreigiau
Elias, RyanRyan Elias Bachwr (1995-01-07) 7 Ionawr 1995 (29 oed) 17 Cymru Scarlets
Owens, KenKen Owens Bachwr (1987-01-03) 3 Ionawr 1987 (37 oed) 82 Cymru Scarlets
Brown, LeonLeon Brown Prop (1996-10-26) 26 Hydref 1996 (27 oed) 17 Cymru Dreigiau
Carré, RhysRhys Carré Prop (1998-02-08) 8 Chwefror 1998 (26 oed) 13 Cymru Gleision Caerdydd
Francis, TomasTomas Francis Prop (1992-04-27) 27 Ebrill 1992 (31 oed) 57 Lloegr Exeter Chiefs
John, WillGriffWillGriff John Prop (1992-12-04) 4 Rhagfyr 1992 (31 oed) 0 Lloegr Sale Sharks
Jones, RhodriRhodri Jones Prop (1991-12-23) 23 Rhagfyr 1991 (32 oed) 20 Cymru Y Gweilch
Jones, WynWyn Jones Prop (1992-02-26) 26 Chwefror 1992 (32 oed) 35 Cymru Scarlets
Ball, JakeJake Ball Clo (1991-06-27) 27 Mehefin 1991 (32 oed) 50 Cymru Scarlets
Beard, AdamAdam Beard Clo (1996-01-07) 7 Ionawr 1996 (28 oed) 25 Cymru Y Gweilch
Hill, CoryCory Hill Clo (1992-02-10) 10 Chwefror 1992 (32 oed) 32 Cymru Gleision Caerdydd
Jones, Alun WynAlun Wyn Jones Clo (1985-09-19) 19 Medi 1985 (38 oed) 148 Cymru Y Gweilch
Rowlands, WillWill Rowlands Clo (1991-09-19) 19 Medi 1991 (32 oed) 7 Lloegr Wasps
Botham, JamesJames Botham Rhes gefn (1998-02-22) 22 Chwefror 1998 (26 oed) 6 Cymru Gleision Caerdydd
Faletau, TaulupeTaulupe Faletau Rhes gefn (1990-11-12) 12 Tachwedd 1990 (33 oed) 86 Lloegr Caerfaddon
Navidi, JoshJosh Navidi Rhes gefn (1990-12-30) 30 Rhagfyr 1990 (33 oed) 28 Cymru Gleision Caerdydd
Tipuric, JustinJustin Tipuric Rhes gefn (1989-08-06) 6 Awst 1989 (34 oed) 85 Cymru Y Gweilch
Wainwright, AaronAaron Wainwright Rhes gefn (1997-09-25) 25 Medi 1997 (26 oed) 29 Cymru Dreigiau
Davies, GarethGareth Davies Mewnwr (1990-08-18) 18 Awst 1990 (33 oed) 62 Cymru Scarlets
Williams, LloydLloyd Williams Mewnwr (1989-11-30) 30 Tachwedd 1989 (34 oed) 32 Cymru Gleision Caerdydd
Williams, TomosTomos Williams Mewnwr (1995-01-01) 1 Ionawr 1995 (29 oed) 22 Cymru Gleision Caerdydd
Biggar, DanDan Biggar Maswr (1989-10-16) 16 Hydref 1989 (34 oed) 92 Lloegr Northampton Saints
Evans, JarrodJarrod Evans Maswr (1996-07-25) 25 Gorffennaf 1996 (27 oed) 6 Cymru Gleision Caerdydd
Sheedy, CallumCallum Sheedy Maswr (1995-10-28) 28 Hydref 1995 (28 oed) 9 Lloegr Bristol Bears
Davies, JonathanJonathan Davies Cefnwr (1988-04-05) 5 Ebrill 1988 (35 oed) 88 Cymru Scarlets
Halaholo, WillisWillis Halaholo Cefnwr (1990-07-06) 6 Gorffennaf 1990 (33 oed) 4 Cymru Gleision Caerdydd
North, GeorgeGeorge North Cefnwr (1992-04-13) 13 Ebrill 1992 (31 oed) 102 Cymru Y Gweilch
Tompkins, NickNick Tompkins Cefnwr (1995-02-16) 16 Chwefror 1995 (29 oed) 10 Cymru Dreigiau
Watkin, OwenOwen Watkin Cefnwr (1996-10-12) 12 Hydref 1996 (27 oed) 26 Cymru Y Gweilch
Williams, JohnnyJohnny Williams Cefnwr (1996-10-18) 18 Hydref 1996 (27 oed) 3 Cymru Scarlets
Adams, JoshJosh Adams Asgellwr (1995-04-21) 21 Ebrill 1995 (28 oed) 32 Cymru Gleision Caerdydd
Amos, HallamHallam Amos Asgellwr (1994-09-24) 24 Medi 1994 (29 oed) 23 Cymru Gleision Caerdydd
Rees-Zammit, LouisLouis Rees-Zammit Asgellwr (2001-02-02) 2 Chwefror 2001 (23 oed) 9 Lloegr Caerloyw
Halfpenny, LeighLeigh Halfpenny Cefnwr (1988-12-22) 22 Rhagfyr 1988 (35 oed) 95 Cymru Scarlets
Williams, LiamLiam Williams Cefnwr (1991-04-09) 9 Ebrill 1991 (32 oed) 70 Cymru Scarlets

Carfan Cwpan y Byd 2015[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2015 ar 31 Awst 2015.[13]

Cefnwyr
Chwaraewr Safle Clwb
Gareth Davies Mewnwr Scarlets
Rhys Webb Mewnwr Gweilch
Lloyd Williams Mewnwr Gleision Caerdydd
Dan Biggar Maswr Gweilch
Rhys Priestland Maswr Bath
Matthew Morgan Maswr Bryste
Cory Allen Canolwr Gleision Caerdydd
Scott Williams Canolwr Scarlets
Jamie Roberts Canolwr Harlequins
Hallam Amos Asgellwr Dreigiau Casnewydd Gwent
Alex Cuthbert Asgellwr Gleision Caerdydd
George North Asgellwr Seintiau Northampton
Leigh Halfpenny Cefnwr Toulon
Liam Williams Cefnwr Scarlets
Blaenwyr
Chwaraewr Safle Clwb
Aaron Jarvis Prop Gweilch
Paul James Prop Gweilch
Gethin Jenkins Prop Gleision Caerdydd
Tomas Francis Prop Exeter Chiefs
Samson Lee Prop Scarlets
Scott Baldwin Bachwr Gweilch
Ken Owens Bachwr Scarlets
Luke Charteris Clo Racing 92
Bradley Davies Clo Wasps
Dominic Day Clo Bath
Jake Ball Clo Scarlets
Alun Wyn Jones Clo Gweilch
Dan Lydiate Blaenasgellwr Gweilch
Justin Tipuric Blaenasgellwr Gweilch
Sam Warburton (c) Blaenasgellwr Gleision Caerdydd
James King Blaenasgellwr Gweilch
Taulupe Faletau Wythwr Dreigiau Casnewydd Gwent

Carfan Cwpan y Byd 2011[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2011 ar 22 Awst 2011.

Cefnwyr
Chwaraewr Safle Clwb
Tavis Knoyle Mewnwr Scarlets
Mike Phillips Mewnwr Bayonne
Lloyd Williams Mewnwr Gleision Caerdydd
James Hook Maswr Perpignan
Rhys Priestland Maswr Scarlets
Jonathan Davies Canolwr Scarlets
Scott Williams Canolwr Scarlets
Jamie Roberts Canolwr Gleision Caerdydd
Leigh Halfpenny Asgellwr Gleision Caerdydd
Aled Brew Asgellwr Dreigiau Casnewydd Gwent
Shane Williams Asgellwr Gweilch
George North Asgellwr Scarlets
Lee Byrne Cefnwr Clermont
Blaenwyr
Chwaraewr Safle Clwb
Gethin Jenkins Prop Gleision Caerdydd
Adam Jones Prop Gweilch
Paul James Prop Gweilch
Ryan Bevington Prop Gweilch
Craig Mitchell Prop Exeter Chiefs
Huw Bennett Bachwr Gweilch
Lloyd Burns Bachwr Dreigiau Casnewydd Gwent
Ken Owens Bachwr Scarlets
Luke Charteris Clo Dreigiau Casnewydd Gwent
Bradley Davies Clo Gleision Caerdydd
Alun Wyn Jones Clo Gweilch
Dan Lydiate Blaenasgellwr Dreigiau Casnewydd Gwent
Andy Powell Blaenasgellwr Sale Sharks
Sam Warburton (c) Blaenasgellwr Gleision Caerdydd
Ryan Jones Wythwr Gweilch
Taulupe Faletau Wythwr Dreigiau Casnewydd Gwent

Carfan 2009[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 ar 19 Ionawr 2009.

Cefnwyr
Chwaraewr Safle Clwb
Gareth Cooper (*) Mewnwr Gloucester
Mike Phillips Mewnwr Gweilch
James Hook Maswr Gweilch
Stephen Jones Maswr Scarlets
Andrew Bishop Canolwr Gweilch
Gavin Henson Canolwr Gweilch
Jamie Roberts Canolwr Gleision Caerdydd
Tom Shanklin Canolwr Gleision Caerdydd
Leigh Halfpenny Asgellwr Gleision Caerdydd
Mark Jones Asgellwr Scarlets
Shane Williams Asgellwr Gweilch
Lee Byrne Cefnwr Gweilch
Blaenwyr
Chwaraewr Safle Clwb
Gethin Jenkins Prop Gleision Caerdydd
Adam Jones Prop Gweilch
Rhys Thomas Prop Dreigiau Casnewydd Gwent
John Yapp Prop Gleision Caerdydd
Huw Bennett Bachwr Gweilch
Matthew Rees Bachwr Scarlets
Luke Charteris Clo Dreigiau Casnewydd Gwent
Bradley Davies Clo Gleision Caerdydd
Ian Gough Clo Gweilch
Alun Wyn Jones Clo Gweilch
Dafydd Jones Asgellwr Scarlets
Robin Sowden-Taylor Asgellwr Gleision Caerdydd
Jonathan Thomas Asgellwr Gweilch
Martyn Williams Asgellwr Gleision Caerdydd
Ryan Jones (c) Wythwr Gweilch
Andy Powell Wythwr Gleision Caerdydd
  • Wedi Gareth Cooper gael ei anafu, cymerwyd ei le gan Dwayne Peel

Carfan 2008[golygu | golygu cod]

Stephen Jones

Record chwarae'r tîm[golygu | golygu cod]

Gemau yn erbyn timau rygbi'r byd[golygu | golygu cod]

Gemau prawf hyd at 13 Mawrth 2021

Gwrthwynebydd Gemau Enillwyd Collwyd Cyfartal Canran enillwyd Dros Yn erbyn Gwahaniaeth
 Yr Ariannin 18 13 5 0 72.22% 505 392 +113
 Awstralia 43 12 30 1 27.91% 663 1004 −341
Y Barbariaid 4 2 2 0 50.00% 113 93 +20
 Canada 12 11 1 0 91.67% 460 207 +253
 Lloegr 137 60 65 12 43.8% 1676 1839 −163
 Ffiji 12 10 1 1 83.33% 358 162 +196
 Ffrainc 100 51 46 3 51.00% 1523 1484 +39
 Georgia 3 3 0 0 100.00% 74 20 +54
 Iwerddon 132 70 55 7 53.03% 1622 1547 +75
 yr Eidal 30 27 2 1 90% 1040 461 +579
 Japan 10 9 1 0 90.00% 526 159 +367
 Namibia 4 4 0 0 100.00% 171 69 +102
 Seland Newydd 35 3 32 0 8.57% 391 1110 −719
 New Zealand Natives 1 1 0 0 100.00% 1G 0G +1G
 New Zealand Services 1 0 1 0 0.00% 3 6 −3
Pacific Islanders 1 1 0 0 100.00% 38 20 +18
 Portiwgal 1 1 0 0 100.00% 102 11 +91
 Rwmania 8 6 2 0 75.00% 342 96 +246
 Samoa 10 6 4 0 60.00% 235 180 +55
 yr Alban 127 74 50 3 58.27% 1758 1356 +402
 De Affrica 36 6 29 1 16.67% 568 922 −354
 Sbaen 1 1 0 0 100.00% 54 0 +54
 Tonga 9 9 0 0 100.00% 301 108 +193
 Unol Daleithiau America 7 7 0 0 100.00% 305 86 +219
 Wrwgwái 2 2 0 0 100.00% 89 22 +67
 Simbabwe 3 3 0 0 100.00% 126 38 +88
Cyfanswm 747 392 326 29 52.48% 13043 11392 +1651

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad[golygu | golygu cod]

  Baner Lloegr Lloegr Baner Ffrainc Ffrainc Iwerddon Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Alban Yr Alban Baner Cymru Cymru
Pencampwriaethau 111 81 111 12 111 111
Pencampwyr (Pencampwyr ar y cyd) 26 (10) 17 (8) 11 (8) 0 (0) 14 (8) 24 (11)
Y Gamp Lawn 12 9 2 0 3 10
Y Goron Driphlyg 23 N/A 10 N/A 10 20

Recordiau unigol[golygu | golygu cod]

  Chwaraewr Nifer Cyfnod / blwyddyn Nodiadau
Nifer fwyaf o gapiau Alun Wyn Jones 134 2006–
Nifer fwyaf o gapiau yn olynol Gareth Edwards 53 1967–1978
Nifer fwyaf o bwyntiau Neil Jenkins 1,049 1991–2003 Record y byd hyd 2008
Nifer fwyaf o geisiau Shane Williams 58 2000–2011
Nifer fwyaf o geisiau gan flaenwr Colin Charvis 22 1996–2007 Record y byd hyd 2014

Enwogion y gorffennol[golygu | golygu cod]

Arthur Gould

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Androw Bennett Welsh Rugby heroes (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2002) ISBN 0862435528
  • John Billot History of Welsh international rugby (Caerdydd: Roman Way Books, 1999) ISBN 0951537911
  • Thomas Davies Gaeaf gwyn a hafau duon: tim rygbi Cymru, Mai 1987-Mehefin 1988 (Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1988) ISBN 0863811124
  • Gareth Edwards The golden years of Welsh rugby gol. David Parry-Jones (Llundain: Harrap, 1982) ISBN 0245538364
  • Howard Evans Welsh international matches, 1881-2000 (Caeredin: Mainstream, 1999) ISBN 1840182156
  • Royston James (gol) Can llwyddiant: cyfrol i ddathlu canmlwyddiant Undeb Rygbi Cymru (Abertawe: Christopher Davies, 1981) ISBN 0715405829
  • R. Gerallt Jones, Huw Llewelyn Davies a Carwyn James Y gamp lawn: golwg ar y tîm a'r tymor (Tal-y-bont: Y Lolfa, 1978) ISBN 904864685
  • Steve Lewis The priceless gift: 125 years of Welsh rugby captains (Caeredin:Mainstream, 2005) ISBN 1840189541
  • David Parry-Jones The Dawes decades: John Dawes and the third golden era of Welsh rugby (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2005) ISBN 1854113879
  • David Parry-Jones The Gwilliam seasons: John Gwilliam and the second golden era of Welsh Rugby (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2002) ISBN 1854113275
  • David Parry-Jones Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the first golden era of Welsh rugby Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 1999) ISBN 1854112627
  • Paul Rees Grand Slam!: year of the dragon (Caeredin: Mainstream, 2005) ISBN 1845960610
  • David Smith Fields of Praise: the official history of the Welsh Rugby Union (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980) ISBN 0-7083-0766-3
  • Wayne Thomas A century of Welsh rugby players (Aston Brewery, Ansells Brewery Ltd, 1979)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Historical Rugby Milestones 1880s". rugbyfootballhistory.com. Cyrchwyd 10 Awst 2007.
  2. [1] Erthygl o'r enw: Historical Rugby Milestones 1880s
  3. "Six Nations History". 6-nations-rugby.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-17. Cyrchwyd 15 Mehefin 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "The 1905/06 'Originals'". rugbymuseum.co.nz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 12 Awst 2007.
  5. "6 Nations History". rugbyfootballhistory.com. Cyrchwyd 12 Awst 2007.
  6. "Wales 8–9 France". BBC Sport. 15 Hydref 2011. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
  7. "Wales 16–9 France". Guardian (London). 17 March 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Wales v England - Six Nations 2024". 6 Nations Fixtures. 17 Mawrth 2012. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
  9. "Wales bask in Six Nations title after slamming England in Cardiff rout". The Guardian. 16 Mawrth 2013.
  10. Wayne Pivac fydd prif hyfforddwr nesa’ rygbi Cymru , Golwg360, 9 Gorffennaf 2019.
  11. "Wales Senior Team Fixtures". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-02.
  12. "France v Wales - 2021 Six Nations". Six Nations Guide. Cyrchwyd 2021-11-02.
  13. "Cadeirydd yn cyhoeddi carfan Cwpan y Byd". BBC Cymru. 31 Awst 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]