Adam Beard

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Adam Beard
Ganwyd 7 Ionawr 1996 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra 203 Centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau 117 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Aberavon RFC Edit this on Wikidata
Safle Clo Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Adam Beard (ganwyd 7 Ionawr 1996). Mae'n chwarae yn safle'r ail reg ac ar hyn o bryd yn chwarae i'r Gweilch yn y Pro14.

Gwnaeth Beard ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch yn 2012 ar ôl chwarae i'w timau academi, Clwb Rygbi Aberafan a Chlwb Rygbi Treforys.

Chwaraeodd dros Gymru ar lefel dan-20 cyn ennill ei gap llawn cyntaf i Gymru yn erbyn Samoa yn Nhaith yr Haf 2017.[1]

Dechreuodd Beard bob gêm heblaw am yr un yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]