Shaun Edwards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Shaun Edwards
Shaun Edwards.jpg
Ganwyd 17 Hydref 1966 Edit this on Wikidata
Wigan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r gynghrair Edit this on Wikidata
Gwobr/au OBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Bradford Bulls, London Broncos, Wigan Warriors, London Broncos, Great Britain national rugby league team, England national rugby league team Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair o Sais sy’n awr yn hyfforddwr rygbi’r undeb yw Shaun Edwards (ganed 18 Hydref 1966). Mae’n hyfforddwr amddiffynnol rhan amser i dîm rygbi'r undeb Cenedlaethol Cymru.

Yn enedigol o Wigan, bu’n chwarae i dîm Wigan rhwng 1983 a 1996. Enillodd wyth pencampwriaeth gyda Wigan, a’r gwpan naw gwaith, y ddau yn record. Chwaraeodd dros Loegr yng Nghwpan y Byd yn 1992 a 1995, ac enillodd 36 cap dros dîm rygbi’r gynghrair Prydain.

Gadawodd Wigan i chwarae am dymor i’r London Broncos, ac am gyfnod byr i Bradford Bulls. Yn 2001, ymunodd â staff tîm rygbi’r undeb London Wasps fel hyfforddwr y cefnwyr, gan ddod yn brif hyfforddwr yn 2005 wedi i Warren Gatland ddychwelyd i Seland Newydd. Enillodd Wasps y bencampwriaeth dair gwaith yn y cyfnod yma.

Pan apwyntiwyd Warren Gatland yn hyfforddwr Cymru cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, apwyntiwyd Edwards yn hyfforddwr amddiffynnol rhan-amser, gan gadw ei swydd gyda'r Wasps. Iddo ef y rhoddir llawer o’r clod am y gwelliant mawr ym mherfformiad amddiffynol Cymru yn y bencampwriaeth yn 2008; dim ond dwy gais a sgoriwyd yn eu herbyn yn y pum gêm.