Rob Howley

Oddi ar Wicipedia
Rob Howley
Ganwyd13 Hydref 1970 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, hyfforddwr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau85 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Bridgend Ravens, Wasps RFC, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleMewnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Hyfforddwr a chyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb yw Robert Howley (ganed 13 Hydref 1970). Mae ar hyn o bryd yn hyfforddwr ymosodol i Dîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru.

Ganed ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bu'n chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi Caerdydd a Wasps. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1996 yn erbyn Lloegr. Enillodd 59 cap dros Gymru fel mewnwr, 22 ohonynt fel capten. Chwaraeodd mewn pedair gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 1999.

Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 1997, ond cafodd ei anafu. Aeth ar daith i Awstralia gyda'r Llewod yn 2001, a chwaraeodd mewn dwy gêm brawf cyn cael ei anafu eto. Ymddeolodd fel chwaraewr yn 2004.