Jonathan Davies (chwaraewr rygbi - ganwyd 1988)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jonathan Davies
Jonathan Davies. Wales Grand Slam Celebration, Senedd 19 March 2012.jpg
Ganwyd 5 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
Solihull Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Sgarlets, Clwb Rygbi Llanelli, ASM Clermont Auvergne, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed Edit this on Wikidata
Safle Canolwr Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, sydd yn chwarae yn safle'r canolwr dros Gymru a Scarlets Llanelli yw Jonathan "Jon" Davies (ganwyd 5 Ebrill 1988).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jonathan Davies yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond ymfudodd ei deulu i Bancyfelin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn ifanc. Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf, yn Hendy-gwyn ar Daf, cyn cychwyn cwrs Ffitrwydd a Chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae Joanthan yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1]

Diddordebau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar wahan i chwarae rygbi, mae Jonathan Davies yn mwynhau caiacio a chwarae criced.[1]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynodd Jonathan Davies ei yrfa fel aelod ifanc o academi y Scarlets. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Glwb Rygbi Llanelli cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth y Sgarlets yn 2006. Sgoriodd ei gais cyntaf i'r tîm yn erbyn Connacht ym Medi 2007.

Gyrfa rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhwyswyd Jonathan Davies yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America yn 2009. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym Mai 2009. Sgoriodd ddau gais yn erbyn Unol Daleithiau America.

Chwaraeodd Davies fel canolwr allanol Cymru i bartneru gyda Jamie Roberts yn safle'r canolwr mewnol yn Nhachwedd 2009 yn erbyn yr Ariannin. Yn Ionawr 2010, enwyd Davies yn ngharfan Cymru ar gyfer Pencapwriaeth y Chwe Gwlad 2010, ond ni chafodd ei ddewis i chwarae yn unrhyw un o'r gemau.

Ffurfiodd Davies bartneriaeth cryf gyda'r maswr James Hook a'r canolwr Jamie Roberts ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[2]

Cwpan y Byd, 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeodd Davies dros Gymru ym mhob un o'u saith gem yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2011, Seland Newydd. Sgoriodd gyfanswm o dri cais yn ystod y gystadleuaeth, yn erbyn Namibia, Ffiji ac Iwerddon.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • [1] Bywgraffiad ar Undeb Rygbi Cymru
  • [2] Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli