Liam Williams
Liam Williams | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
9 Ebrill 1991 ![]() Abertawe ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra |
188 Centimetr ![]() |
Pwysau |
88 cilogram ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au |
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Sgarlets, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig ![]() |
Safle |
Cefnwr ![]() |
Gwlad chwaraeon |
Cymru ![]() |
Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Liam Williams (ganwyd 9 Ebrill 1991). Mae'n chwarae yn safle'r cefnwr gan amlaf, ond wedi chwarae ar yr asgell hefyd. Mae Williams yn adnabyddus am ei steil rhedeg anarferol a'i arddull chwarae di-ofn.[1]
Pan yn fachgen ysgol, bu Williams yn chwarae rygbi gyda'i glwb lleol Clwb Rygbi Waunarlwydd. Ni chafodd ei ddewis gan unrhyw un o'r academïau profesiynol y rhanbarthau, ac felly pan oedd yn 16 oed aeth i weithio fel sgaffaldiwr dan hyfforddiant yng Ngwaith Dur Port Talbot, tra'n parhau i chwarae i Waunarlwydd.[2]
Cafodd ei arwyddo gan y Scarlets pan oedd yn 20 oed, a threuliodd ei flwyddyn gyntaf (2010-11) yn chwarae i Glwb Rygbi Llanelli.
Yn 2017, cyhoeddwyd y byddai Williams yn ymuno â chlwb Saracens yn Lloegr ar gytundeb tair blynedd.[3] Roedd ei benderfyniad wedi'i ysgogi yn rhannol gan ei garwriaeth â'r fodel o Gymru, Sophie Harries, a oedd yn byw yn Llundain.[4]
Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym mis Tachwedd 2011, cafodd Williams ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ar 3 Rhagfyr 2011.[5] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn y Barbariaid ar 2 Mehefin 2012 yn Stadiwm y Mileniwm. Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf ar 15 Mawrth 2014 yn erbyn yr Alban ac fe'i enwyd yn Seren y Gêm.
Dewiswyd Williams ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017. Cafodd gerdyn melyn yn ei gêm gyntaf ar y daith, ond rhoddodd berfformiad disglair yn y gêm ganlynol. Dechreuodd Williams ym mhob gêm o'r gyfres brawf yn erbyn y Crysau Duon yn safle'r cefnwr.
Dechreuodd Williams bob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019. Cafodd wobr 'Seren y Gêm' yn erbyn Lloegr, bu raid iddo adael y maes gydag anaf yn erbyn yr Alban, ond yr oedd wedi gwella erbyn y gêm olaf yn erbyn Iwerddon i sichrau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Griffiths, Gareth (2016-06-19). "The making of Liam Williams as Wales star wins over NZ critics". Walesonline.co.uk. http://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/making-liam-williams-wales-star-11493437.
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/awesome-picture-wales-rugby-stars-15441356
- ↑ "Saracens sign Wales and Scarlets utility back Liam Williams". The Guardian. 9 February 2017. https://www.theguardian.com/sport/2017/jan/09/wales-rugby-union-international-liam-williams-three-year-deal-saracens.
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/who-rugby-star-liam-williams-12214182
- ↑ "Warren Gatland gambles on fitness doubts for Australia Test". BBC Sport. Cyrchwyd 27 October 2017.