Gareth Llewellyn
Gareth Llewellyn | |
---|---|
Ganwyd |
27 Chwefror 1969 ![]() Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth |
chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra |
198 centimetr ![]() |
Pwysau |
114 cilogram ![]() |
Plant |
Max Llewellyn ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au |
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, RC Narbonne, Harlequin F.C., Bristol Bears, Clwb Rygbi Castell-nedd, Y Gweilch ![]() |
Safle |
Clo ![]() |
Gwlad chwaraeon |
Cymru ![]() |
Mae Gareth Llewellyn (ganwyd 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gapaiau dros Gymru fel clo.
Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd a Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-06.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn yr Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Parhaodd y record yma nes i Gareth Thomas ennill ei 93eg cap yn 2007.
Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol.
Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru.