Neidio i'r cynnwys

Super Rygbi Cymru

Oddi ar Wicipedia

Cystadleuaeth rhwng clybiau rygbi undeb yng Nghymru yw Super Rygbi Cymru. Bydd yn cynnwys 10 tîm ac yn dechrau ym mis Medi 2024.

Bwriad y gystadleuaeth yw pontio’r bwlch i chwaraewyr sy’n symud rhwng yr Academïau a’r Rhanbarthau.[1]

Tymor cyntaf[golygu | golygu cod]

Y 5 gêm agoriadol ar y 21 Medi 2024 fydd:

Tlws a chwpan[golygu | golygu cod]

Bydd timau yn cystadlu am Dlws Super Rygbi Cymru a Chwpan Super Rygbi Cymru. Bydd y Cwpan Super Rygbi yn cael ei gyflwyno yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda phedair rownd o gemau a rownd derfynol. Y fformat fydd dau bwll o bump clwb, gyda phob clwb yn chwarae dwy gêm gartref ac oddi cartref. Bydd enillydd pob pwll wedyn yn cyfarfod yn y rownd derfynol.[2]

Tarian yr Heriwr[golygu | golygu cod]

Bydd Tarian yr Heriwr i'w hamddiffyn gan Llanymddyfri yn eu gemau gartref gan ddechrau gyda Llanymddyfri fel ennillwyr y gynghrair flwyddyn diwethaf ac enllwyr eu gemau i gyd. [2]

Cap cyflog[golygu | golygu cod]

Mae’r 10 clwb i gyd wedi arwyddo i system ‘cap cyflog’ a fydd yn eu galluogi i wario hyd at £150,000 ar garfan o 32 o chwaraewyr. Bydd eithriadau cap cyflog ar gyfer chwaraewyr rhanbarthol sy'n cael eu rhyddhau (o dan 18 ac o Academi Hŷn); chwaraewyr ar gontract deuol ac anafiadau.[2]

Bydd URC yn darparu £105,000 i bob clwb a fydd yn gorfod codi'r un swm eu hunain bob tymor ac hefyd bodloni set o ddisgwyliadau gweithredu gofynnol wrth redeg y clwb a’u tîm.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Byddwch yn barod - mae Super Rygbi Cymru yn cyrraedd fis Medi". Undeb Rygbi Cymru | Clwb a Cymuned. 2024-05-19. Cyrchwyd 2024-05-24.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 James, Ben (2024-05-19). "WRU announce new Super Rygbi Cymru competition as format and salary cap detailed". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-24.