Bleddyn Williams

Oddi ar Wicipedia
Bleddyn Williams
Ganwyd22 Chwefror 1923 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau83 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Trecelyn, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 22 o gapiau dros Gymru, fel canolwr yn bennaf, ac a adnabyddid fel "Tywysog y Canolwyr" oedd Bleddyn Llewellyn Williams, MBE (22 Chwefror 1923 - 6 Gorffennaf 2009).

Ganed ef yn Ffynnon Taf ger Caerdydd. Roedd yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig Clwb Rygbi Caerdydd. Ef oedd capten tim Caerdydd pan gawsant fuddugoliaeth dros y Crysau Duon yn 1953 a ffurfiai bartneriaeth effeithiol dros ben i Gaerdydd ac i Gymru gyda’r canolwr arall, Jack Matthews. Chwaraeodd pob un o’i saith brawd i Gaerdydd hefyd.

Chwaraeodd nifer o weithiau drost dîm Cymru mewn gemau answyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau yn 1947. Yn 1953 yr oedd yn gapten tîm Cymru pan gurwyd y Crysau Duon. Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1955. Sgoriodd saith cais dros Gymru a bu’n gapten y tîm bum gwaith i gyd, gyda Chymru’n ennill pob un o’r gemau hyn.

Aeth ar daith i Seland Newydd ac Awstralia gyda’r Llewod Prydeinig yn 1950, ac fe’i dewiswyd yn is-gapten. Chwaraeodd mewn pedair gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon a dwy yn erbyn Awstralia, un o’r ddwy fel capten. Derbyniodd yr MBE am ei wasanaethau i rygbi.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]