James Hook (chwaraewr rygbi)

Oddi ar Wicipedia
James Hook
Ganwyd27 Mehefin 1985 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Man preswylPort Talbot Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau96 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, USA Perpignan, Y Gweilch, Gloucester Rugby, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm y Gweilch a Chymru yw James William Hook (ganed 27 Mehefin 1985).

Ganed ef ym Mhort Talbot. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gyfun Glan Afan. Bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd cyn ymuno â'r Gweilch. Enillodd ei le yn y tîm cyntaf yn nhymor 2006-07. Bu'n chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Ariannin yn 2006, pan sgoriodd gais.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2007, chwaraeodd Hook ymhob un o gemau Cymru, ond fel canolwr yn hytrach nag yn ei safle arferol fel maswr, lle roedd Stephen Jones yn ddewis cyntaf. Yn ystod Cwpan y Byd 2007, dechreuodd Hook y gêm gyntaf fel maswr, ond Stephen Jones a ffafriwyd yn y safle yma am weddill y gemau.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, ef ddechreuodd y gemau yn erbyn Lloegr (pan enwyd ef yn chwaraewr gorau y gêm), yr Alban a'r Eidal yn safle maswr, er i Stephen Jones ddechrau'r gêm yn erbyn Iwerddon, gyda Hook yn dod ar y cae yn ddiweddarach.