Ray Gravell
| Ray Gravell | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | Raymond William Robert Gravell 12 Medi 1951 Cydweli |
| Bu farw | 31 Hydref 2007 Calp |
| Man preswyl | Cydweli |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, actor, newyddiadurwr |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
| Safle | Canolwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd Ray William Robert Gravell (12 Medi 1951 – 31 Hydref 2007), yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd radio, yn sylwebydd rygbi, ac yn actor. Roedd yn genedlaetholwr pybyr, yn edmygydd mawr o Dafydd Iwan, Carwyn James, ac o Owain Glyndŵr. Cysylltir y dywediad "West is Best" â Ray.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef ym Mynydd-y-garreg ar bwys Cydweli, Sir Gaerfyrddin, lle cafodd ei addysg gynradd cyn mynd i Ysgol Fodern Porth Tywyn ac wedyn i Ysgol Ramadeg y Bechgyn. Pan oedd yn 14 mlwydd oed, bu farw ei dad Jack drwy hunanladdiad.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Rygbi
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli ym 1970, ac roedd yn gapten y tîm o 1980 i 1982. Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym 1975. Yn ystod ei yrfa, enillodd 23 cap dros Gymru. Roedd yn aelod o dîm Cymru a enillodd y gamp lawn ddwy waith, fel arfer fel canolwr ond weithiau fel asgellwr. Bu ar daith Y Llewod i Dde Affrica ym 1980 gan chwarae yn y pedair gem brawf. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ym 1982 a chwaraeodd ei gêm olaf i Lanelli ym 1985. Bu'n Llywydd Clwb Rygbi Llanelli ac wedyn Clwb y Scarlets hyd ei farw.
Actio
[golygu | golygu cod]Cafodd ran amlwg yn y ffilm Bonner a recordiwyd gan y BBC ar ran S4C, a hefyd yn y ffilm Owain Glyndŵr. Ymddangosodd mewn ffilm deledu y BBC o'r enw Filipina Dreamgirls, a chwaraeodd ran yn ffilm Louis Malle, Damage, yn Rebecca's Daughters ac fel Referee No. 1 yn y ffilm Up and Under. Bu hefyd yn y gyfres Heliwr (1996).
Darlledu
[golygu | golygu cod]Cyflwynodd raglenni sgwrsio rheolaidd ar BBC Cymru ac ar Radio Cymru. Tan ei farw, roedd yn cyflwyno ei raglen foreol ei hun o'r enw Grav ar Radio Cymru, a ddarlledwyd i orllewin Cymru. Roedd hefyd yn cyd-gyflwyno I'll Show You Mine gyda Frank Hennessy ar Radio Wales. Roedd hefyd tan ei farw yn aelod o dîm sylwebu rygbi Cymraeg y BBC ar gemau y Cynghrair Celtaidd, Cwpan Powergen, a'r Cwpan Heineken.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn byw ym Mynydd-y-garreg, lle a'r oedd yn agos iawn at ei galon, gyda'i wraig Mari a'u dwy ferch, Gwennan a Manon. Roedd yn byw yn y stryd a enwyd ar ei ôl, sef Heol Ray Gravell.
Clefyd y Siwgr
[golygu | golygu cod]Roedd Gravell yn dioddef o glefyd y siwgr ers 2000. Cyhoeddwyd ar 18 Ebrill 2007 y byddai'n rhaid iddo ddychwelyd i Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael llawdriniaeth fis blaenorol i dorri i ffwrdd dau fys traed,[2] a roedd rhaid iddo golli ei goes dde o dan y pen-lin.[3] Cafodd fynd adref ar y cyntaf o Fai ac ail-ddechrau ar ei waith darlledu.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]
Bu farw yn sydyn yn 56 blwydd oed ar 31 Hydref 2007, pan oedd ar ei wyliau yn Sbaen. Daeth rhai miloedd o bobl i'w angladd gyhoeddus ym Mharc y Strade, Llanelli, ar 15 Tachwedd 2007. Darlledwyd yr angladd yn fyw ar S4C a Radio Cymru.[4]
Roedd baner Y Ddraig Goch ar ei arch, a gludwyd gan chwech o chwaraewyr rygbi Llanelli. Cafwyd teyrngedau gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a'r hanesydd Hywel Teifi Edwards. Canwyd "Calon Lân" "Cwm Rhondda" a chaneuon Cymraeg eraill gan y dorf. Yn dilyn yr angladd gyhoeddus cafwyd angladd breifat i'r teulu yn unig yn Llanelli.[5]
Cynhaliwyd munud o dawelwch / gymeradwyaeth yng ngemau rygbi ar draws y DU, gan gynnwys gem Y Sgarlets yn erbyn Leeds[6], Y Gleision yn erbyn Caerlŷr,[7], a gemau'r Gweilch a'r Dreigiau.
Wedi ei farwolaeth
[golygu | golygu cod]Ymgyrch 'Cwpan Ray Gravell'
[golygu | golygu cod]Yn yr wythnos wedi ei farwolaeth galwyd ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd i fuddugolwyr gemau rhyngwladol rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn hytrach newid yr enw i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng iddo. Dadleuant fod enwi'r gwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 1,500 o bobl wedi ei harwyddo a 1,000 yn cefnogi'r syniad mewn grŵp Facebook.[8]
Drama Grav
[golygu | golygu cod]Ym mis Mawrth 2014, llwyfanwyd drama un-dyn am fywyd Gravell dan y teitl Grav. Ysgrifennwyd y ddrama Saesneg ei hiaith gan Owen Thomas ac fe'i gynhyrchwyd gan Torch Theatre. Gareth John Bale oedd yn portreadu Gravell a pherfformiwyd y ddrama gyntaf yn Theatr y Sherman, Caerdydd.[9] Ers hynny mae'r ddrama wedi teithio Cymru a’r byd, gan gynnwys perfformiadau yn Efrog Newydd, Washington DC ac Adelaide. Perfformiwyd y ddrama am y 200fed gwaith ar 12 Hydref 2024 gyda Bale yn ail-afael yn y rôl. enillodd Grav y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 – yr unig wobr y pleidleisiwyd amdani gan y cyhoedd. Enwebwyd y ddrama hefyd am yr Actor Gorau (Gareth J Bale), y Cyfarwyddwr Gorau (Peter Doran) a’r Dramodydd Gorau (Owen Thomas).[10]
Yn 2021 comisiynodd S4C addasiad o'r ddrama fel ffilm deledu yn y Gymraeg. Unwaith eto Gareth John Bale oedd yn portreadu Gravell a'r cyfarwyddwr oedd Marc Evans. Cwmni Regan Developments, gyda chwmni Tarian Cyf, a gynhyrchodd y rhaglen.[11] Darlledwyd y ffilm ar S4C ar 12 Medi 2021, y diwrnod pan fyddai Gravell wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rugby hero's joy at being a dad made sense of his world , WalesOnline, 3 Ebrill 2004. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rugby legend readmitted after op (en) , BBC News – South West Wales, 18 Ebrill 2007.
- ↑ Rugby hero's right leg amputated (en) , BBC News – South West Wales, 19 Ebrill 2007. Cyrchwyd ar 18 Ebrill 2007.
- ↑ Live, North Wales (2007-11-14). "Public farewell to Ray Gravell". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ (Saesneg) Newyddion y BBC (15 Tachwedd 2007). BBC NEWS. BBC MMX. Adalwyd ar 4 Mai 2010.
- ↑ Administrator, walesonline (2013-03-29). "Tributes pour in for rugby hero Gravell". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ Administrator, walesonline (2013-03-29). "Tributes pour in for rugby hero Gravell". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ "Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu" (yn Saesneg). 2007-11-05. Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ Bevan, Nathan (2014-12-09). ".@gareththomas14 and Ray Gravell's lives to become stage plays". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ "GRAV – DATHLIAD 10fed PEN-BLWYDD A'R 200fed PERFFORMIAD". Theatr Torch. Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ "S4C yn comisiynu drama sydd yn olrhain bywyd yr arwr rygbi, Ray Gravell | Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-09-04.
- ↑ "Y sialens o bortreadu Grav ar y sgrîn". BBC Cymru Fyw. 2021-07-20. Cyrchwyd 2025-09-04.
