Hywel Teifi Edwards
Hywel Teifi Edwards | |
---|---|
Ganwyd |
15 Hydref 1934 ![]() |
Bu farw |
4 Ionawr 2010 ![]() Llanelli ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
Hanesydd ![]() |
Plant |
Huw Edwards ![]() |
Beirniad llenyddol a hanesydd diwylliannol oedd Hywel Teifi Edwards (15 Hydref 1934 – 4 Ionawr 2010). Roedd yn arbennigwr ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei fagu yn Aberarth, Ceredigion, ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu a'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe fel tiwtor llenyddiaeth Gymraeg. Daeth yn athro cadeiriol a Phennaeth Adran Gymraeg y coleg cyn iddo fe ymddeol.
Ei arbenigedd oedd hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn enwedig hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a thros etholaeth Caerfyrddin yn 1987. Roedd yn dad i'r newyddiadurwr Huw Edwards. Bu farw ar 4 Ionawr 2010 yn Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli ar ôl cyfnod byr o salwch.[1]
Cofiant[golygu | golygu cod y dudalen]
Enillodd Tudur Hallam gadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 am ei awdl yn cofio am Hywel Teifi.
Lansiwyd Academi Hywel Teifi fel rhan o Brifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010.
Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yr Eisteddfod 1176-1976 Gomer (1976)
- Gŵyl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858-1868 Gomer (1980)
- Codi'r hen wlad yn ei hol, 1850-1914, Gomer (1989)
- Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, 1893, Gomer (1990)
- Arwr glew erwau'r glo, 1850-1950, Gomer (1994)
- Codi'r Llen Gomer (1998)
- O'r pentre gwyn i Gwmderi, Gomer Press (2004)
- Hanes Eglwys Bryn Seion, Llangennech (2007)
- The National Pageant of Wales, Gomer (2009)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Hywel Teifi Edwards wedi marw. Gwefan Newyddion y BBC. 04-01-10. Adalwyd ar 05-10-10
|