Beirniadaeth lenyddol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Y grefft o ystyried a phwyso gwerth gwaith llenyddol yw beirniadaeth lenyddol. Ar ei gorau, mae beirniadaeth lenyddol yn ffurf lenyddol o bwys ynddo ei hun sy'n cyfuno chwaeth diwylliedig personol, dawn mynegiant arbennig ac ysgolheictod cadarn, a geir gan amlaf ar ffurf ysgrif neu gyfrol o ysgrifau. Ymdrecha rhai beirniad at ddamcaniaeth lenyddol, drwy adnabod a llunio'r egwyddorion sydd yn rheoli cyfansoddiad llenyddol, ac asesu a dehongli gweithiau llenyddol yn ôl y meini prawf hynny.

Mae beirniaid llenyddol Cymraeg adnabyddus yn cynnwys Saunders Lewis, Gwyn Thomas, Bobi Jones a John Rowlands.

Gellir olrhain beirniadaeth lenyddol yn y Gorllewin yn ôl i sylwadau Platon am swyddogaeth y beirdd yn Y Wladwriaeth (tua 375 CC). Ysgrifennodd ei ddisgybl, Aristoteles, y gwaith cyntaf i ymdrin yn systematig â damcaniaeth lenyddol ar ffurf ei ymateb i Blaton, Y Farddoneg (tua 335 CC). Y prif draethawd arall yn yr Hen Roeg ar bwnc llenyddiaeth yw "Ynglŷn â'r Arddunol" o'r 1g OC a briodolir i Longinus. Ymhlith y beirniaid Lladin o nod mae Horas a Quintilian. Dygwyd beirniadaeth ddyneiddiol gan y Dadeni yn yr Eidal, a dyrchafwyd Aristoteles ac Horas yn awdurdodau yn sgil yr adfywiad mewn ysgolheictod clasurol. Ers hynny, adlewyrchai mudiadau llenyddol yr oesoedd gan y tueddiadau mewn beirniadaeth lenyddol: newydd-glasuriaeth, Rhamantiaeth, a moderniaeth. Mae beirniadaeth gyfoes yn dadansoddi gweithiau llenyddol trwy ddulliau strwythuraidd, semiolegol, ffeministaidd, Marcsaidd, a seicdreiddiol, tra'r oedd beirniadaeth o oesoedd cynt yn ymdrin â syniadau moesol neu athronyddol, neu yn ystyried y gwaith llenyddol dan sylw fel gwrthrych ffurfiol yn annibynnol ar ei awdur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.