Neidio i'r cynnwys

Tudur Hallam

Oddi ar Wicipedia
Tudur Hallam
GanwydTudur Rhys Hallam Edit this on Wikidata
1975 Edit this on Wikidata
Treforys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata

Mae Tudur Rhys Hallam (ganwyd Gorffennaf 1975) yn fardd ac yn academydd. Mae'n Athro Emeritws yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuodd ddysgu yno yn 1999, a phenodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn 2011. Cyhoeddodd waith ar amrywiaeth o destunau ym maes y Gymraeg, gan gynnwys Canon ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru: 2007), Saunders y Dramodydd (Gwasg Pantycelyn: 2013), Llawlyfr Meistroli'r Gymraeg (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2018), cyfrol o'i gerddi Parcio (Cyhoeddiadau Barddas, 2019), gan gyd-olygu ag Angharad Price dair cyfrol yng nghyfres Ysgrifau Beirniadol (Gwasg Gee).

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Brodor o Ddyffryn Aman yw Tudur Hallam. Fe'i magwyd ym mhentref Penybanc, Rhydaman. Mynychodd Ysgol Gymraeg Rhydaman ac, yn ddiweddarach, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa yng Nghwm Gwendraeth. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth lle'r enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol ddwywaith, cyn graddio â dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a chychwyn ar radd PhD.

Ymunodd ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn 1999, a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yno. Bu'r astudiaeth yn sail i'w lyfr Canon ein Llên, a enillodd iddo Wobr Goffa Ellis Grffith yn 2009. Fe'i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Bu'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Houston yn 2016-17, dan nawdd y Comisiwn Fulbright. Y Gymraeg, ac ysgrifennu yn y Gymraeg oedd ei alwedigaeth, ond manteisiodd ar ambell gyfle i rannu ei waith ag eraill drwy gyfrwng y Saesneg, megis pan draddododd y ddarlith Chatterton ar farddoniaeth i'r Academi Brydeinig yn 2014.

Ceisiodd hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach wrth ymuno â bwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2019, gan weithredu'n Gadeirydd ar Bwyllgor y Gymraeg. Yn sgil tor iechyd, ymddeolodd o'r rôl hon ynghyd â Chadair y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn 2025.

Bu ennill y Fedal Lenyddiaeth (1995) a'r Gadair (1999) yn Eisteddfod Urdd yn hwb i ddilyn gyrfa ym maes llenyddiaeth. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 â'i gerdd Ennill Tir, yn deyrnged i'r Athro Hywel Teifi Edwards.[1]

Ef oedd prifardd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025.[2]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n briod â Nia ac mae ganddynt ddau fab a merch. Mae'n byw ym mhentref Foelgastell, Sir Gaerfyrddin. Mae'n un o dri brawd: yr hynaf yw'r Prifardd Gwion Hallam, a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, ac sy'n awdur ac yn gyfarwyddwr ar gwmni teledu Ffilmiau TwmTwm; Tudur yw'r mab canol, a'r ieuengaf yw Trystan Hallam sy'n weinidog yr Efengyl. Daw'r cyfenw Hallam o swydd Efrog, ar ochr eu tad. Davies oedd eu mam cyn priodi, a'i gwreiddiau yn Y Tymbl, Cwm Gwendraeth. Roedd ei dad-cu, David Glyndwr Davies, yn ysgrifennu penillion, ac yn frwd ei anogaeth pan ddechreuodd Tudur farddoni. Glowyr oedd ei ddau dad-cu, a'i ddau dad-cu yng nghyfraith, a'r pedwar, fel y pedair mam-gu, yn gweithio'n galed i roi cyfleoedd i'w plant, a phlant eu plant.

Yn ei gymuned, bu Tudur yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanddarog ac Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth. Bu hefyd yn hyfforddwr ar dimoedd ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Cefneithin, Clwb Pêl-droed Drefach a Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  Tudur yn ennill y Gadair. BBC Cymru (6 Awst 2010).
  2. ↑ "Tudur Hallam yn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-08. Cyrchwyd 2025-08-08.