Neidio i'r cynnwys

Cwm Rhondda (emyn-dôn)

Oddi ar Wicipedia

Emyn-dôn Gymreig boblogaidd iawn yw Cwm Rhondda, sy'n cael ei ystyried fel anthem answyddogol Cymru. Fe'i cenir ar nifer o achlysuron ar wahân i'r eglwys, gan gynnwys mabolgampau (yn enwedig ar y maes rygbi).[1] Cred rhai i'r alaw gael ei hysgrifennu ar gyfer Cymanfa Ganu'r Bedyddwyr ym Mhontypridd yn 1905 ond mae'n fwy tebyg iddi gael ei hysgrifennu ar gyfer cyrddau arbennig yng Nghapel Rhondda, eglwys y Bedyddwyr, Trehopcyn, Pontypridd, yn 1907. Yn 1907 fe'i canwyd ar y geiriau Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd gan Ann Griffiths. Cenir emyn William Williams, Arglwydd, arwain trwy'r anialwch - emyn sy'n sôn am hanes yr Iddewon yn teithio o'r Aifft i Ganaan (stori Llyfr Exodus yn y Beibl) - hefyd ar yr alaw, ac yn ei ffurf Saesneg, 'Guide me, O Thou Great Jehovah/Redeemer' (a'i gytgan Bread of Heaven - cyfieithiad o eiriau Williams Pantycelyn gan Peter Williams), y mae wedi mynd yn boblogaidd iawn ar draws y byd.


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "100 Arwyr Cymru — William Williams (Pant-y-celyn)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-04-26. Cyrchwyd 2007-01-01.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Huw Williams. Rhagor o Donau a'u Hawduron (Llyfrau'r MC, 1969).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]