Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd

Oddi ar Wicipedia

Emyn a ysgrifennwyd gan Ann Griffiths yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd a gennir yn aml ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda. Mae'n gân serch i Dduw, yn hiraethu amdano, ac am fod yn bur ac yn ffyddlon iddo. Credir i'r emyn gael ei ysgrifennu yn dilyn pregeth gan John Parry gyda Caniad Solomon 5:10 yn destun - 'Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil'.

Mae'r cyfeiriad at 'fyrtwydd' mae'n debyg yn seiliedig ar Sechareia 1:8, sef gweledigaeth o ŵr ar farch coch yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, sef symbol o Grist yn amddiffyn ei bobl.

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd;
Er mai o ran, yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma ei beilot ar y môr.

Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gystadlu â'm Iesu mawr:
O am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.