John Parry (gweinidog)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Parry
Er cof am y diweddar Barch John Parry (Caer) .. NLW3364386.jpg
John Parry (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ganwyd 17 Mai 1775 Edit this on Wikidata
Llandwrog Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Ebrill 1846 Edit this on Wikidata (70 oed)
Galwedigaeth gweinidog Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler John Parry.

Golygydd, cyhoeddwr, gweinidog Methodus a gramadegydd Cymreig oedd John Parry (7 Mai 177528 Ebrill 1846). Mae'n adnabyddus yn bennaf heddiw fel awdur Rhodd Mam, y catecism i blant a ddaeth yn ddarllen cyfarwydd i nifer o blant Cymru'r 19eg ganrif.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Parry yn frodor o blwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), ond treuliodd dau draean o'i oes yn ninas Caer lle sefydlodd argraffwasg.

Yn 1818 dechreuodd gyhoeddi Goleuad Gwynedd (Goleuad Cymru yn nes ymlaen). Golygodd Y Drysorfa o 1831 ymlaen.

Ysgrifennodd Ramadeg Cymraeg a Gramadeg Hebraeg a chyfieithodd rhai o weithiau diwinyddol John Brown i'r Gymraeg.

Fe'i cofir yn bennaf fel awdur Rhodd Mam, llyfr catecism neu holwyddoreg a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1811. Er ei fod wedi ei fwriadu ar gyfer plant, daeth yn brif gyfrwng hyfforddiant yn egwyddorion yr Eglwys Fethodistaidd a gwybodaeth Beiblaidd i genedlaethau o oedolion hefyd trwy waith yr Ysgol Sul. Ceiniog yn unig oedd pris y gyfrol fechan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)