Neidio i'r cynnwys

Rhodd Mam

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y catecism yw hon. Gweler hefyd Rhodd Mam, nofel gan Mary Annes Payne.

Catecism neu holwyddoreg Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn y 19g ar gyfer pobl ifanc oedd Rhodd Mam i'w Phlentyn neu, yn syml, Rhodd Mam (argraffiad cyntaf: 1811). Fe'i gelwir yn "Rhodd Mam" am fod mamau yn ei brynu i'w plant ddefnyddio yn yr Ysgol Sul.

Ei awdur oedd y gweinidog a golygydd John Parry, sefydlydd gwasg yn ninas Caer. Ceiniog yn unig oedd ei bris pan ddaeth allan, ond er yn llyfr bychan cafodd ddylanwad mawr gan hyfforddi cenedlaethau o blant ac oedolion yn egwyddorion y Ffydd. Daeth yr enw yn ystrydeb. Argraffwyd miloedd lawer o gopïau ac roedd yn un o'r llyfrau Cymraeg mwyaf cyfarwydd yn y 19g.

Yn y Cyfryngau

[golygu | golygu cod]

Bu i Ffilmiau Bryngwyn gynhyrchu drama deledu ym 1995 ar gyfer S4C wedi'i seilio ar rhai o'r cwestiynau a ofynir yn y gyfrol, ac fe enwyd y ddrama yn Rhodd Mam.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.